Mynd i'r afael â'r argyfwng natur drwy'r System Gynllunio
Polisi Cynllunio Cenedlaethol wedi'i ddiweddaru ar gyfer Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru.
Gellir crynhoi'r prif newidiadau i'r polisi fel a ganlyn:
Seilwaith gwyrdd
Pwyslais cryfach ar gymryd ymagwedd ragweithiol at seilwaith gwyrdd:
- cwmpasu ystyriaethau trawsffiniol
- nodi canlyniadau allweddol asesiadau seilwaith gwyrdd
- cyflwyno datganiadau seilwaith gwyrdd cymesur gyda cheisiadau cynllunio
- yfeirio safonau Adeiladu gyda Natur
Budd ar gyfer bioamrywiaeth a'r dull cam-ddoeth
Darperir eglurder pellach ar sicrhau budd ar gyfer bioamrywiaeth drwy gymhwyso'r dull cam-ddoeth:
- cydnabod mesurau iawndal oddi ar y safle fel dewis olaf
- yr angen i ystyried gwella a rheoli tymor hir ar bob cam
Diogelu ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Dull cryfach o amddiffyn SoDdGAs:
- mwy o eglurder ynghylch y sefyllfa ar gyfer rheoli safle
- eithriadau ar gyfer mân ddatblygiadau sy'n angenrheidiol i gynnal 'tirwedd fyw'
- ystyrir bod datblygiad arall yn annerbyniol fel mater o egwyddor
Coed a choetiroedd
- Aliniad agosach â'r dull cam-ddoeth
- Hyrwyddo plannu newydd fel rhan o ddatblygiad yn seiliedig ar sicrhau'r goeden gywir yn y lle iawn
-
Rhaid plannu o leiaf 3 coeden o fath a maint tebyg yn lle pob coeden a dorrir
Polisi cynllunio Cymru (Rhifyn 12)
Darllenwch y PPW12 yn llawn
Datganiad seilwaith gwyrdd
Dylid cyflwyno datganiad seilwaith gwyrdd gyda'r holl geisiadau cynllunio.
Bydd hyn yn gymesur â graddfa a natur y datblygiad a gynigir. Dylai hyn ddisgrifio sut mae seilwaith gwyrdd wedi'i ymgorffori yn y cynnig.
Yn achos mân ddatblygiad, bydd hyn yn ddisgrifiad byr. Ni ddylai hyn fod yn feichus i ymgeiswyr.
Rhaid defnyddio'r rhain i ddangos bod y dull cam-ddoeth yn cael ei gymhwyso (Paragraff 6.4.21).
Lle mae'r effaith andwyol ar fioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau yn amlwg yn gorbwyso ystyriaethau materol eraill, dylid gwrthod y datblygiad.
Rydym wedi llunio templed drafft ar gyfer Datganiad GI at ddibenion datblygu mân a deiliaid tai.