Loterïau cymdeithasau bach
Rhaid i gymdeithasau sy'n dymuno gwerthu tocynnau loteri gofrestru gyda'r cyngor. I gofrestru loteri cymdeithas fach, rhaid i sefydliad fod wedi'i sefydlu ac yn cael ei gynnal:
- at ddebenion elusennol
- at ddiben cyfranogi mewn chwaraeon, athletau neu weithgaredd diwylliannol neu eu cefnogi
- • at unrhyw ddiben anfasnachol ar wahân i elw preifat.
Er mwyn i gymdeithas gael ei hystyried yn "loteri cymdeithas fach", rhaid i gyfanswm gwerth tocynnau sy'n cael eu gwerthu fesul loteri sengl fod yn £20,000 neu’n llai, neu ni ddylai cyfanswm gwerth tocynnau sy'n cael eu gwerthu ar gyfer yr holl loterïau mewn blwyddyn galendr fod yn fwy na £250,000. Os yw'r gweithredwr yn bwriadu rhagori ar y naill werth neu'r llall, efallai y bydd angen eu trwyddedu gyda'r Comisiwn Gamblo fel loteri fawr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefanY Comisiwn Gamblo