Gwastraff masnachol
Mae gan fusnesau ddyletswydd gyfreithiol i gael gwared ar wastraff yn gyfrifol. Mae mwy o wybodaeth ar y dudalen Dyletswydd Gofal. Mae'n rhaid i fusnesau ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig er mwyn cael gwared ar eu gwastraff a chael dogfennau er mwyn dangos yr holl drefniadau sydd ganddynt er mwyn cael gwared ar y gwastraff.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar gael i gynnig cyngor a chefnogaeth i gael gwared ar eich gwastraff. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth proffesiynol; gadewch i ni fynd i'r afael â'ch gwastraff er mwyn i chi fod yn rhydd i ganolbwyntio ar eich busnes.
Mae gan y cyngor amrywiaeth o finiau ar olwynion ar gael ar gyfer casgliadau gwastraff ac ailgylchu masnachol. Mae mwy o wybodaeth o dan Cynwysyddion a Phrisiau. Gall busnesau ddewis creu cytundeb gyda'r cyngor neu gontractwr preifat er mwyn casglu a chael gwared ar eu gwastraff. Os hoffech drafod pa wasanaethau sydd ar gael ar gyfer eich busnes, ffoniwch ni ar 01639 686 406.
Os eich busnes yn casglu neu cynhyrchu llawer o gwastraff gardd/torri coed, gallwch chi ailgylchu fe yng Nghanolfan Ailgylchu Llansawel.
Mae'r ffi yw £60.57 y dunnell. Talu ar y bont bwyso ar y safle. Oriau agor.