Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dyletswydd gofal i fusnesau

Os ydych yn fusnes, mae'r 'Ddyletswydd Gofal' yn berthnasol i chi. Mae gwastraff masnachol, diwydiannol a chartref (gan gynnwys gwastraff peryglus) yn cael ei ddosbarthu dan y categori 'gwastraff a reolir'. Mae'r Ddyletswydd Gofal yn berthnasol i'r holl 'wastraff a reolir' - mae hyn yn golygu bod deunyddiau gwastraff sy'n cael eu cynhyrchu fel rhan o'ch busnes neu yn eich gweithle'n cael eu rheoli gan y gyfraith.

Os byddwch yn cynhyrchu neu'n ymdrin â gwastraff â phriodweddau peryglus penodol, mae'n rhaid i chi gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau Gwastraff Peryglus hefyd.

Pan fyddwch yn mewnforio, yn cynhyrchu, yn cadw neu'n gwaredu gwastraff a/neu drosglwyddo gwastraff i eraill er mwyn iddynt hwy ymdrin ag ef ar eich rhan chi, mae'r gyfraith yn dweud bod rhaid i chi ei atal rhag dianc o'ch rheolaeth chi. Mae'n rhaid i chi ei storio'n ddiogel a'i waredu mewn ffordd gyfrifol. Mae'n rhaid i chi ei atal rhag achosi llygredd neu niwed.

Mae 'rhwymedigaeth' arnoch chi a'ch busnes i gymryd pob cam rhesymol i wneud y canlynol:

  • Yn gyntaf, sicrhau bod unrhyw un sy'n cadw, yn gosod, yn gwared neu'n adfer eich 'gwastraff a reolir' yn meddu ar drwydded neu eithriad rheoli gwastraff cyfredol.
  • Yn ail, mae'n rhaid ei ddiogelu. Dylid ei gadw mewn cynhwysydd addas. Os byddwch yn rhoi gwastraff rhydd mewn sgip neu lori, dylid ei orchuddio;
  • Yn drydydd, os byddwch yn rhoi eich 'gwastraff a reolir' i rywun arall, gwiriwch fod ganddynt yr awdurdod i'w gymryd. Mae'r gyfraith yn dweud bod rhaid i'r person rydych yn rhoi eich gwastraff iddo fod ag awdurdod i'w gymryd. Hefyd, sicrhewch fod y person neu'r busnes yn meddu ar awdurdod i ymdrin â'r math penodol o wastraff sydd gennych chi;
  • Yn bedwerydd, mae'n rhaid i chi ddisgrifio'r gwastraff yn ysgrifenedig. Mae'n rhaid i chi lenwi a llofnodi Nodyn Trosglwyddo Gwastraff. Mae'n rhaid i chi gadw copi o'r nodyn trosglwyddo.