Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle

Ailgylchu masnachol

O fis Ebrill 2024, bydd Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd Llywodraeth Cymru yn dod i rym.

Mae hyn er mwyn gwella ansawdd a maint y gwastraff ailgylchadwy masnachol sy'n cael ei gasglu a'i wahanu ledled Cymru. Ceir crynodeb o'r rheoliadau isod. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar Gwefan Llywodraeth Cymru.

Gofynion gwahanu

Mae'r rheolau newydd hyn yn berthnasol i bob busnes a'r sectorau cyhoeddus ac elusennol. Mae angen i chi sicrhau bod pob math o wastraff ailgylchadwy penodedig (gweler isod) yn cael ei wahanu'n wahanol fathau i'w gasglu gan y Cyngor. 

Deunydd ailgylchadwy a gwmpesir gan y rheoliadau

Mae yna nifer o ddeunyddiau gwastraff ailgylchadwy y mae angen i chi eu gwahanu i'w casglu. Bydd y Cyngor yn eu casglu ar wahân ac yn eu cadw ar wahân ar ôl eu casglu. Mae rhain yn:

  • gwastraff bwyd a gynhyrchir gan safleoedd sy'n cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd yr wythnos
  • papur a cherdyn
  • gwydr
  • caniau metelau
  • poteli plastig
  • cartonau a phecynnu tebyg eraill
  • offer trydanol ac electronig heb eu gwerthu (WEEE)
  • tecstilau heb eu gwerthu

Os oes gennych unrhyw WEEE neu decstilau heb eu gwerthu, rhaid i chi gysylltu â'r Cyngor i wneud trefniadau pellach:

Ffôn: 01639 686406

Ebost: tradewaste@npt.gov.uk

Gwastraff yr ydych yn gyfrifol amdano

Chi sy'n gyfrifol am yr holl wastraff ar y safle yr ydych yn ei feddiannu. Mae’r rhain yn cynnwys gwastraff a gynhyrchir gan:

  • staff
  • ymwelwyr
  • contractwyr
  • gwerthwyr sy'n gweithio ar y safle

Eiddo annomestig

Mae eiddo annomestig yn cynnwys unrhyw fangre ac eithrio eiddo domestig neu garafán y mae rhywun yn byw ynddi fel cartref.

Mae safleoedd annomestig o dan y Rheoliadau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • eiddo amaethyddol - gan gynnwys ar gyfer garddwriaeth, tyfu ffrwythau a hadau, ffermio llaeth, bridio a chadw da byw, tir pori a dolydd, gerddi marchnad a thir meithrinfa
  • bariau a thafarndai
  • gwely a brecwast, gwestai
  • gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, porthladdoedd, meysydd awyr, porthladdoedd hofrenyddion
  • meysydd gwersylla a meysydd carafanau; carafanau: a ddefnyddir ar gyfer darparu llety hunanarlwyo, neu sy’n dal trwydded neu ganiatâd cynllunio sy’n atal y garafán rhag cael ei defnyddio i bobl fyw ynddi drwy gydol y flwyddyn
  • cartrefi gofal a nyrsio
  • safleoedd adeiladu (ac eithrio gwaith atgyweirio neu ymestyn ar eiddo domestig presennol)
  • sefydliadau addysgol fel prifysgolion, colegau ac ysgolion
  • lleoliadau adloniant a chwaraeon, gan gynnwys canolfannau hamdden
  • ffactoriau
  • garejys ar gyfer gwasanaethu a thrwsio cerbydau
  • canolfannau garddio
  • adeiladau treftadaeth
  • llety gwyliau, e.e. llety gwyliau hunanarlwyo, parciau gwyliau/cyrchfannau gwyliau
  • ysbytai
  • llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
  • eiddo trwyddedig o fewn ystyr Deddf Trwyddedu 2003
  • swyddfeydd
  • fferyllfeydd, meddygfeydd, deintyddfeydd a chyfleusterau gofal sylfaenol eraill
  • addoldai
  • carchardai
  • cartrefi preswyl
  • bwytai a chaffis
  • gorsafoedd gwasanaethau a gorsafoedd petrol
  • siopau a chanolfannau siopa
  • tiroedd arddangos
  • lleoliadau ar gyfer marchnadoedd awyr agored
  • lleoliadau ar gyfer digwyddiadau dros dro fel gwyliau
  • storfeydd

Gorfodaeth

Mae’r ddeddfwriaeth newydd yn cael ei gorfodi gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dirwyon

Gallai deiliaid wynebu dirwy o £300 am bob trosedd a gyflawnir.

Gwastraff cyffredinol gyda deunyddiau ailgylchadwy

Bydd gan y Cyngor yr hawl i wrthod casglu'r gwastraff os yw'n cynnwys unrhyw rai o'r eitemau a restrir uchod. Gallem dderbyn dirwy o £500 os cawn ein dal yn casglu gwastraff sy’n cynnwys deunyddiau ailgylchadwy.

Dyletswydd gofal

Mae'r gofynion gwahanu yn ategu gofynion dyletswyddau gofal gwastraff . Mae’r ddeddfwriaeth dyletswydd gofal yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheoli gwastraff yn ddiogel er mwyn diogelu iechyd pobl a’r amgylchedd.

Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd (EPA) yn creu dyletswydd gofal ar gyfer unrhyw un sy'n cynhyrchu neu'n delio â gwastraff rheoledig. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • i'w gadw'n ddiogel
  • gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei drin yn gyfrifol
  • dim ond yn cael ei roi i fusnesau sydd wedi'u hawdurdodi i'w gymryd

Mae’r cod ymarfer dyletswydd gofal yn berthnasol i unrhyw un sy’n cynhyrchu, yn cario, yn cadw, yn cael gwared ar, yn trin, yn mewnforio neu’n rheoli gwastraff penodol yng Nghymru neu Loegr. Cyhoeddir y cod ymarfer dyletswydd gofal o dan adran 34 oDdeddf Diogelu’r Amgylchedd (EPA) 1990