Ynglŷn â'r Tîm Seicoleg Addysg
Ein bwriad
"Rydym yn cymhwyso gwybodaeth seicolegol o ddatblygiad plant, dysgu ac ymddygiad i hyrwyddo datblygiad cadarnhaol, a gwella canlyniadau a lles, plant, pobl ifanc, teuluoedd a sefydliadau."
Ein gweith
Rydym yn cynnal ymgynghoriadau rheolaidd a sesiynau datrys problemau gydag athrawon, rhieni a gofalwyr ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol eraill i archwilio unrhyw rwystrau i ddysgu a lles y disgyblion er mwyn creu canlyniadau cadarnhaol ar gyfer pawb. Mae pob Seicolegydd Addysgol yn gyfrifol am clwstwr o ysgolion ac rydym yn cynnig rhaglen ymweld yn rheolaidd.
Mae nifer yr ymweliadau a ddyrennir yn dibynnu ar faint yr ysgol a lefel yr angen. Mae mynediad i'n gwasanaeth Seicolegydd Addysgol drwy’r ysgolion.
Rydym hefyd yn ymdrin ag ysgolion sy'n cynnig darpariaeth arbenigol i ddisgyblion o fewn yr awdurdod. Gweler y rhestr o ddarpariaethau arbenigol yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys:
- ymgynghori
- asesu
- arsylwi
- hyfforddiant
- gwaith therapiwtig
- ymchwil a chyngor polisi
Cwrdd ein Tîm
Prif Seicolegydd Addysg
- Helen Osborne
Uwch Seicolegydd Addysg, SA Arweiniol ar gyfer ASD
- Dr Alison Annear
Uwch Seicolegydd Addysg, SA Arweiniol ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar
- Dr Abi Wright
Uwch Seicolegydd Addysg, SA Arweiniol ar gyfer ACEY
- Dr. Carys John
SA sy’n gweithio a dysgwyr oed ysgol
- Dr. Amy Munro
- Dr. Laura Gadd
- Dr. Jemma Williams
- Dr. Naomi Erasmus
- Dr. Katy Edwards
- Dr. Katy Warren
SA Blynyddoedd Cynnar
- Dr. Claire Prosser
- Dr. Naomi Erasmus
- Dr. Laurie Davies
SA Cynorthwyol
- Lowri Roberts
- Caitlin Davies
- Jessica Lewis
- Molly McGiveron
SA dan hyfforddiant
Mae hyd at 2 bob blwyddyn academaidd yn cael cynnig lleoliadau tymor byr (hyd at 2 dymor) gan Brifysgol Caerdydd.
Rydym yn dîm o 13 Seicolegydd Addysg (SA) a 4 Seicolegydd Addysg Cynorthwyol sy'n darparu cefnogaeth i'n hysgolion a gynhelir a chymunedau blynyddoedd cynnar yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae ein Seicolegwyr Addysg wedi ei cofrestru gyda'r Cyngor Proffesiynol Gofal Iechyd (HCPC). Mae 8 o'n SA yn cefnogi cymunedau ein hysgolion, mae 3 o'n SA yn cefnogi Cymunedau'r Blynyddoedd Cynnar gydag un aelod o'r tîm yn cefnogi ein gwasanaethau blynyddoedd cynnar ac oedran ysgol. Mae 2 o'n SA Cynorthwyol yn cefnogi ein tîm Blynyddoedd Cynnar (o dan arweiniad Dr Abi Wright) ac mae 2 o'n Cynorthwywyr yn ymroddedig i gefnogi iechyd emosiynol a lles seicolegol dysgwyr (o dan arweiniad Dr Carys John).
Rydym yn cefnogi lleoliadau i'r rhai sy'n astudio i fod yn Seicolegwyr Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn sicrhau bod Seicolegwyr Addysg dan hyfforddiant yn cael cyfle i brofi ystod o leoliadau ledled Cymru.