Pwy yw’r Seicolegwyr Addysg (SA)?
Mae'r Gwasanaeth SA yn rhan o Adran Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes Castell-nedd Port Talbot. Tîm o seicolegwyr cymwysedig ydym. Mae gennym wybodaeth gefndir a phrofiad o sut mae plant a phobl ifanc yn dysgu ac yn datblygu. Ein cylch gwaith yw datblygiad, dysgu a lles cymdeithasol ac emosiynol plant a phobl ifanc.
Sut rydym yn gweithio?
Rydym yn cyfuno ein gwybodaeth a'n harbenigedd gyda gwybodaeth a phrofiad athrawon a rhieni neu ofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill. Ein nod yw hwyluso newidiadau cadarnhaol a fydd yn gwneud gwahaniaeth i blant, yn arbennig y rhai sydd efallai'n profi anawsterau yn yr ysgol.
Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc rhwng 0 a 19 oed mewn amrywiaeth o leoliadau addysgol a rhai eraill. Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i ddisgyblion ysgolion a'u rhieni, gan gynnwys:
- gwaith achos gyda’r unigolyn
- gweithio gyda phlant mewn grwpiau
- hyfforddi staff ysgolion a gweithwyr proffesiynol eraill
- cefnogi ysgolion i gynyddu cyflawniad disgyblion a hybu effeithiolrwydd yr ysgol
- gweithio gyda rhieni a gofalwyr
- gweithio gydag asiantaethau eraill, e.e. y gwasanaethau cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol awdurdodau iechyd, asiantaethau gwirfoddol etc.
- gwaith ymchwil a phrosiect
- cyfrannu at bolisi ac arfer yr AALl.
Sut rydym yn gweithio gyda phlant unigol a beth a wnawn?
Mae gan bob ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot ei SA penodol sy'n ymweld â'r ysgol yn rheolaidd ac s’yn rhan o dîm cefnogi estynedig yr ysgol.
Byddwch eisoes wedi trafod y pryderon ynghylch addysg eich plentyn gyda'i athro/athrawes. Gall y pryderon hyn ymwneud â chynnydd dysgu eich plentyn, ei ymddygiad yn yr ysgol, sut mae'n cyd-dynnu â'i gyd-ddisgyblion, neu rywbeth arall. Bydd yr ysgol wedi ceisio, gyda'ch cymorth chi, i wella'r sefyllfa ond, erbyn hyn, maent yn teimlo y byddai cydweithio gyda ni yn helpu i gynllunio'r ffordd ymlaen. Bydd hyn yn digwydd gyda'ch caniatâd chi yn unig.
Yna, bydd staff yr ysgol yn cwblhau ffurflen wybodaeth am eich plentyn ac yn ei hanfon atom ni. Ar ôl i ni dderbyn y ffurflen hon, byddwn yn trefnu apwyntiad i ymweld ag ysgol eich plentyn a bydd staff yr ysgol yn rhoi gwybod i chi am y dyddiad a'r amser.
Pan fydd yn briodol, byddwch yn cael cyfle i drafod eich plentyn gyda ni ac, yn ystod ein hymweliad â'r ysgol, gallwn gymryd un o'r camau canlynol, neu bob un ohonynt:
- ymgynghori â'ch plentyn
- ymgynghori ag athrawon eich plentyn
- arsylwi yn yr ystafell ddosbarth a/neu'r iard chwarae
- edrych ar waith eich plentyn
- defnyddio deunyddiau ac offer asesu.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Fel arfer, caiff cofnod/adroddiad ysgrifenedig am ein gwaith gyda'ch plentyn ei baratoi. Bydd ein hadroddiad ysgrifenedig yn cynnwys crynodeb o'n gwaith ac unrhyw argymhellion sy'n deillio o'r wybodaeth a gasglwyd. Bydd athro eich plentyn yn trafod yr argymhellion hyn gyda chi ac yn rhoi copi o'n hadroddiad i chi.
Ysgol eich plentyn sy'n gyfrifol am ei helpu, gyda'ch cyfraniad a'ch cefnogaeth chi. Bydd yr ysgol yn parhau i fonitro ei gynnydd a'i adolygu ar ôl cyfnod o amser rhesymol.