Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Canllaw ar waith Seicolegydd Addysg a beth gallwch ei ddisgwyl

Beth ye seicoleg?

Seicoleg yw cael gwybod pam mae pobl yn meddwl ac yn ymddwyn mewn ffordd benodol.

Beth yw Seicolegydd Addysg? (neu SA yn fyr!)

Mae Seicolegydd Addysg yn helpu plant, rhieni/ gofalwyr ac athrawon gyda'u problemau.  Mae SA yn defnyddio seicoleg i helpu gyda ac ymddygiad a cheisio gwneud pethau'n well i bobl yn yr ysgol.

Gyda beth fydd yr SA yn mynd i helpu fi?

Mae'r SA yn gallu helpu gydag anawsterau sydd gennych yn yr ysgol.  Gallai hyn gynnwys anawsterau gyda ffrindau, dysgu, ymddygiad neu'ch meddyliau a'ch teimladau.

Bydd yr SA yn gweitho gyda chi i'ch helpu i deall y pethau rydych yn eu gwenud un dda iawn a'r pethau nad ydych yn eu gwneud cystal fel bod eich athrawon a phobl eraill yn gwybod sut i'ch helpu.

Pa weithgareddau fydd yr SA yn eu gwneud gyda fi?

Mae hynny'n dibynnu ar eich anghenion.  Efallai y byddwch yn gwneud gweithgareddau a phosau ac ateb cwestiynau.  Bydd yr SA yn siarad a chi am sut rydych yn teimlo.  Weithiau, bydd yr SA yn edrych ar beth sy'n digwydd yn y dosbarth.

Beth fydd yn digwydd ar ol i'r SA fy ngweld?

Bydd yr SA yn aml yn siarad a'ch athro a'ch rhieni a chaiff cynllun ei lunio a fydd yn eich cynnwys chi.  Bydd yn eich helpu gydag ynrhyw beth sy'n peri anhawster i chi.

Bydd yr SA yn ysgrifennu'r cynllun mewn adroddiad a gaiff ei ddangos i'ch athro dosbarth a'ch rhieni/ gofalwyr.  Bydd yn helpu pawb i ddeall beth mae angen ei wneud i wneud pethau'n well i chi.

Bydd yr SA wedyn yn ymweld a'ch ysgol yn rheolaidd a weld sut mae pethau gyda chi.

Peidwch a phoeni!

Mae digon o blant a phobl ifanc yn gweld Seicolegydd Addysg.  Mae hyn fel arfer am fod rhywun wedi codi pryder am sut rydych yn gwneud ac eisiau help i feddwl sut i wneud pethau'n well i chi.

Efallai mai eich athro, eich rhiant/ gofalwr neu chi sydd wedi codi pryder.  Gall yr SA drafod hyn pan ewch i'w weld.

Bydd pob SA wedi astudio Seicoleg yn y brifysgol, bydd ganddo brofiad o weithio gyda phlant a bydd wedi gwneud rhagor o astudio i fod yn Seicolegydd Addysg.

Byddwch fel arfer yn gweld y Seicolegydd Addysg yn yr ysgol ac mae Seicolegwyr Addysg gwahanol mewn ysgolion gwahanol.

Mae gennych hawl i fynegi'ch barn ac i rywun wrando arnoch pan wneir penderfyniadau yn yr ysgol.  Mae SA yn ceisio trin pawb yn gyfartal beth bynnag yw ei oedran, ei ryw neu ei gefndir.
Cyfarwyddiadau i SA13 1PJ
EPS
Civic Centre Port Talbot Neath Port Talbot SA13 1PJ pref
(01639) 763718 (01639) 763718 voice +441639763718