Datganiad I'r Wasg
-
Wythnos ar ôl i leisio eich barn am gyllideb Cyngor Castell-nedd Port Talbot a’r cynlluniau adfer ar ôl y pandemig!25 Ionawr 2022
Dim cynnydd i gyfraddau Treth y Cyngor, buddsoddi yn adferiad ein cymunedau a’r economi leol, ac arian i helpu taclo’r argyfyngau hinsawdd a natur lleol… dyma rai’n unig o blith y cynigion yng nghyllideb drafft y Cyngor ar gyfer 2022/23.
-
Parc Gwledig Gnoll, sydd mor boblogaidd, dan warchae gan fandaliaid - Helpwch ni i warchod eich ased gymunedol werthfawr24 Ionawr 2022
Mae pandemig Covid-19 wedi dangos mor bwysig yw llecynnau agored cyhoeddus i’n llesiant o ran corff a meddwl, ac mae Castell-nedd Port Talbot yn ffodus o gael ardaloedd hyfryd o goedwig, parciau a glan môr.
-
Golau gwyrdd i gynllunio ar gyfer datblygiad atyniad antur o bwys yn Nyffryn Afan19 Ionawr 2022
Mae caniatâd cynllunio amodol ar gyfer tîm datblygu newydd i symud y gwaith o baratoi prosiect atyniad antur trawsnewidiol yn Nyffryn Afan bellach wedi cael ei roi ar ôl i ddogfen gyfreithiol gael ei harwyddo.
-
Castell-nedd Port Talbot yw’r awdurdod lleol cyntaf i lofnodi addewid ‘Mae Fy Mhethau’n Cyfri’ i blant mewn gofal19 Ionawr 2022
Castell-nedd Port Talbot yw’r awdurdod lleol cyntaf i lofnodi addewid i sicrhau fod plant a phobl ifanc sy’n cael profiad o’r system ofal yn gweld eu heiddo gwerthfawr yn cael ei drin ag urddas, gofal a pharch pryd bynnag y byddan nhw’n symud i gartref newydd
-
Gofalwr maeth yn rhannu ei 30 mlynedd o brofiad i ysbrydoli rhagor o bobl i faethu yng Nghymru18 Ionawr 2022
Mae gofalwr maeth o Gastell-nedd Port Talbot wedi rhannu ei 30 mlynedd o brofiad i helpu i apelio at eraill ynghylch sut gallent hwy hefyd wneud gwahaniaeth i fywyd person ifanc.
-
Ychwanegiad trydanol newydd i’r Gwasanaeth Llyfrgell Gartref18 Ionawr 2022
Mae Gwasanaeth Llyfrgell Gartref Castell-nedd Port Talbot wedi dathlu’r flwyddyn newydd gydag ychwanegiad newydd sbon.
-
Cyngor yn cryfhau'r tîm rheng flaen i gefnogi rhagor o bobl ddiamddiffyn17 Ionawr 2022
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cryfhau tîm cymunedol rheng flaen sy'n canolbwyntio ar gefnogi pobl sy'n profi cyfnod anodd yn eu bywydau.
-
Disgwyliad i ymlediad Omicron achosi mwy o aflonyddwch i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol12 Ionawr 2022
Mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cymunedol yng Nghastell-nedd Port Talbot ac Abertawe'n wynebu pwysau cynyddol wrth i bryderon dyfu ynghylch prinder staff.
- Cyntaf⠀
- Blaenorol⠀
- Tudalen 1
- ...
- Tudalen 52
- Tudalen 53 o 57
- Tudalen 54
- ...
- Tudalen 57
- ⠀Nesaf
- ⠀Diwethaf