Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Rhaid i ddyn sy'n tipio gwastraff yn anghyfreithlon heb dalu Hysbysiad Cosb Benodedig dalu bron i £1,300
    31 Hydref 2023

    Mae dyn o Bort Talbot wnaeth dipio gwastraff gwyrdd yn anghyfreithlon ger canol y dref, ac yna fethu â thalu Hysbysiad Cosb Benodedig wedi cael ei ddedfrydu bellach i dalu dirwy, costau erlyn, a gordal effaith ar ddioddefwr, cyfanswm o £1,288.38.

  • Gŵyl Castell-nedd Port Talbot yn rhoi teyrnged i Gymuned y Lluoedd Arfog
    26 Hydref 2023

    Mae digwyddiad poblogaidd Gŵyl Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot yn dychwelyd i Gastell-nedd Port Talbot ym mis Hydref a Thachwedd.

  • Cyhoeddi cyllid gan y Llywodraeth DU ar gyfer ‘Launchpad’ De-orllewin Cymru - ysgogi twf mewn technoleg adnewyddadwy
    23 Hydref 2023

    Bydd ‘Launchpad: diwydiant sero net, De-orllewin Cymru’ — prosiect partner sy’n adeiladu ar lwyddiant Clwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) — yn elwa ar hyd at £7.5m o fuddsoddiad newydd i sbarduno arloesedd a thwf busnes yr ardal mewn technolegau adnewyddadwy.

  • Newyddion yn torri! Ychwanegu cân eiconig i arlwy seren y West End
    20 Hydref 2023

    Mae’r seren o gantores y West End Sophie Evans wedi ychwanegu ‘We'll Meet Again’ i’w repertoire, a bydd yn rhoi’r perfformiad cyhoeddus cyntaf erioed o’r gân yn ddiweddarach ym mis Hydref ym Mhort Talbot.

  • Datganiad Aweinydd y Cyngor i Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot 19 Hydref 2023
    19 Hydref 2023

    Cyfarfu y Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot am y tro cyntaf ar ddydd Iau, Hydref 19 ar safle’r cwmni ym Mhort Talbot lle cytunwyd ar y ffyrdd o weithio, cylch gorchwyl y bwrdd ac aelodaeth y bwrdd.

  • Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot
    19 Hydref 2023

    Cyhoeddwyd Tata Steel gynigion ym mis Medi i fuddsoddi £1.25 biliwn, gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU gwerth hyd at £500 miliwn, i alluogi cynhyrchu dur mwy gwyrdd ym Mhort Talbot. Mae Bwrdd Pontio bellach wedi’i sefydlu i gefnogi’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yr effeithir arnynt gan y newid arfaethedig i symud tuag at wneud dur CO₂ isel.

  • Cyngor yn cyhoeddi pwy fu’n llwyddiannus wrth dderbyn Cronfa Dreftadaeth Gymunedol newydd CnPT
    19 Hydref 2023

    Mae ysgol, capel, ymddiriedolaeth gymunedol a llyfrgell gymunedol ymysg ymgeiswyr llwyddiannus yn y cylch diweddaraf o gyllid i’w roi gan Gronfa Dreftadaeth Gymunedol newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

  • Cyllid ar gael i daclo tlodi bwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot
    17 Hydref 2023

    Bellach, gall grwpiau cymunedol a sefydliadau sy’n bodoli â’r nod o gefnogi pobl sy’n cael trafferth gyda thlodi bwyd, ac atal tlodi bwyd gyflwyno ceisiadau ar lein.

  • Anrhydeddu Cyngor Castell-nedd Port Talbot am ei ymrwymiad i gydraddoldeb yng ngwobrau olaf Chwarae Teg
    17 Hydref 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ennill gwobr am ei ymrwymiad i gydraddoldeb yn y seremoni wobrwyo olaf i’w chynnal gan yr elusen cydraddoldeb rhyw Chwarae Teg.

  • Gweinidog yn agor cyfleusterau newydd mewn ysgol i gryfhau addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Tawe
    16 Hydref 2023

    Cafodd dosbarthiadau newydd a Chanolfan Drochi’r Iaith Gymraeg eu hagor yn swyddogol ddydd Gwener 13 Hydref 2023 yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe Gan y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles AS.