Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Gwasanaeth Lles ac Ymddygiad y Cyngor yn Ennill Gwobr Fawreddog
    29 Hydref 2024

    Mae Gwasanaeth Lles ac Ymddygiad Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ennill y Wobr Efydd fawreddog am Effaith Ragorol ar Addysg yng Ngwobrau Iechyd Meddwl a Lles Cymru 2024. Cyflwynwyd y wobr i gydnabod mentrau rhagorol y tîm sydd â'r nod o hybu lles meddyliol mewn lleoliadau addysgol ledled y sir.

  • Golau gwyrdd i Gynllun Darparu Teithio Llesol Castell-nedd Port Talbot
    28 Hydref 2024

    Mae Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi mabwysiadu a chyhoeddi gweledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf er mwyn sicrhau y bydd pobl leol yn gwneud mwy o deithio ar droed, ar feic neu drwy ddefnyddio dulliau ar olwynion eraill o deithio llesol.

  • Cyflwyno cais cynllunio ar gyfer darpar drawsnewidiad theatr a Sgwâr Dinesig
    25 Hydref 2024

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyflwyno cais cynllunio ar gyfer ei gynllun a gefnogir gan arian Llywodraeth y Du i ddiweddaru Sgwâr Dinesig canol tref Port Talbot a Theatr y Dywysoges Frenhinol gerllaw.

  • Digwyddiad rhad ac am ddim sy’n llawn antur yn talu teyrnged i’r Lluoedd Arfog ddoe a heddiw
    24 Hydref 2024

    Bydd Gŵyl Dydd y Lluoedd Arfog Castell-nedd Port Talbot yn digwydd rhwng 10am tan 4pm ddydd Sadwrn (26 Hydref) ym Mhort Talbot, gyda digonedd i’w weld a’i wneud dan do ac yn yr awyr agored yn ystod y digwyddiad rhad ac am ddim hwn.

  • Cynnydd yn y Gwaith o Estyn Canolfan Gelfyddydau Pontardawe
    24 Hydref 2024

    Mae cynnydd sylweddol yn digwydd i’r prosiect ymestyn a diweddaru sylweddol yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe, gyda’r gwaith adeiladu wedi hen ddechrau. Mae’r prosiect, a ddechreuodd yn gynt eleni, yn trawsnewid y ganolfan yn lleoliad modern ar gyfer y celfyddydau ac adloniant, gyda sinema newydd â lle i 70 eistedd ynddi.

  • Cytuno ar gynllun Placiau Glas i anrhydeddu pobl, lleoedd a digwyddiadau nodedig Castell-nedd Port Talbot
    24 Hydref 2024

    MAE aelodau Cabinet Cyngor Castell-nedd wedi cymeradwyo Cynllun Placiau Glas coffa i ddathlu pobl, lleoedd a digwyddiadau nodedig ledled y fwrdeistref sirol.

  • Cronfa Cyflogaeth a Sgiliau newydd i gefnogi gweithwyr Tata Steel a'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru
    23 Hydref 2024

    Mae gweithwyr yng Nghymru sydd wedi colli eu swyddi yn Tata Steel UK neu mewn busnes yng nghadwyn gyflenwi'r cwmni a chontractwyr cysylltiedig eraill bellach yn gallu cael gafael ar gyllid sydd wedi cael ei neilltuo i'w helpu i ailsgilio a dychwelyd i fyd gwaith.

  • Argymell y dylai'r Cabinet ddiystyru defnyddio adeilad gwag fel Canolfan Frysbennu ar gyfer digartrefedd
    17 Hydref 2024

    Fel rhan o waith y Cyngor i ystyried ffyrdd posibl o ddefnyddio adeilad gwag Canolfan Gymunedol y Groes ym Mhontardawe yn y dyfodol, bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ei gyfarfod ddydd Mercher, 23 Hydref 2024, a fydd yn argymell diystyru ei ddefnyddio fel Canolfan Frysbennu neu ar gyfer llety dros dro.

  • Rhaglen brysur o ddigwyddiadau’r Cofio yng Nghastell-nedd Port Talbot
    17 Hydref 2024

    Mae rhaglen brysur o ddigwyddiadau wrthi’n cael ei pharatoi’n derfynol ar gyfer Castell-nedd Port Talbot wrth i ni agosáu at Sul y Cofio (Tachwedd 10) a Diwrnod y Cadoediad (Tachwedd 11) eleni.

  • Cyhoeddi y bydd cantores o fri y cyfeirir ati fel ‘y Katherine Jenkins nesaf’ yn ymddangos yng Nghyngerdd Coffa'r Maer
    10 Hydref 2024

    Un o sêr y dyfodol, Madlen Forwood, y mae llawer yn darogan mai hi fydd “y Katherine Jenkins nesaf”, yw'r artist olaf i gael ei enwi ar gyfer Cyngerdd Coffa Maer Castell-nedd Port Talbot eleni.