Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Trafod prosiectau ysgolion gwerth miliynau yng Nghastell-nedd Port Talbot
    14 Tachwedd 2023

    Gallai cyfres o brosiectau mawr i adeiladu ac adnewyddu ysgolion fod ar y gweill yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan gynnwys adeiladu ysgol newydd sbon yn lle Ysgol Gynradd Godre’r-graig, y bu’n rhaid i bawb ei gadael oherwydd tirlithro, ac ysgol arbennig newydd sbon yn lle Ysgol Hendrefelin.

  • Ailwampio siop wag yn ardal gadwraeth canol tref Castell-nedd diolch i arian grant
    13 Tachwedd 2023

    Mae cyn-siop ddillad ynghanol Castell-nedd sydd wedi bod yn wag ers sawl blwyddyn wedi cael ei hadnewyddu’n llwyddiannus a throi’n ganolfan People’s Dispensary for Sick Animals (PDSA) diolch i gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru.

  • ‘Colli Ysgol, Colli Cymaint’: Cyngor yn lansio ymgyrch i wella cyfraddau mynychu’r ysgol
    10 Tachwedd 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi lansio ymgyrch i dynnu sylw at bwysigrwydd mynd i’r ysgol i sicrhau fod pob plentyn a pherson ifanc cyn cael y dechrau gorau posib mewn bywyd. Nod ymgyrch ‘Colli Ysgol, Colli Cymaint’ yw codi ymwybyddiaeth am fanteision mynychu’r ysgol, rhoi gwybodaeth am sut y gall teuluoedd atal absenoldebau, a thynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i rieni.

  • Cynllun ‘Llyfrgell Pethau’ newydd yn helpu preswylwyr i arbed arian a lleihau gwastraff
    10 Tachwedd 2023

    Mae cynllun ‘Llyfrgell Pethau’ cyntaf Castell-nedd Port Talbot wedi agor yn swyddogol yn Llyfrgell Sandfields, gan gynnig cyfle i breswylwyr arbed arian a lleihau gwastraff.

  • Un o’r goreuon – y cyhoedd yn dewis Parc Gwledig Margam fel un o brif lecynnau glas y DU
    09 Tachwedd 2023

    Mae defnyddwyr parciau ledled y DU wedi pleidleisio dros Barc Gwledig Margam fel un o’r llecynnau glas gorau yng Ngwobrau Dewis y Bobol Baner Werdd 2023.

  • Cabinet yn cymeradwyo Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth – cam allweddol o ran gwarchod natur a gwella llesiant
    09 Tachwedd 2023

    Mae Cabinet Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo’r diweddariad i Gynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth (2023-2026) yr awdurdod, sy’n lasbrint ar gyfer cadwraeth a chyfoethogi byd natur doreithiog sy’n ffynnu yn y Fwrdeistref Sirol.

  • Cyfle enfawr i adeiladwyr tai wrth i Gyngor Castell-nedd Port Talbot ailgychwyn ei gynllun datblygu hanfodol
    03 Tachwedd 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi pennod newydd yn ei daith ddatblygu gyda diwygiad mawr i’w Gynllun Datblygu Lleol (LDP) diweddaraf.

  • Marwolaeth y Cynghorydd Marcia Spooner – datganiad
    03 Tachwedd 2023

    Dywedodd Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Steve Hunt y bydd colled enfawr ar ôl y Cynghorydd Marcia Spooner a fu farw ddydd Sul (Hydref 29, 2023).

  • Rhaglen gyllid gwerth £1.7m i adfywio cymoedd a phentrefi Castell-nedd Port Talbot bellach ar agor
    01 Tachwedd 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwahodd cynigion am brosiectau ar gyfer gwario’i Gronfa Ffyniant Cymoedd a Phentrefi (VVPF).

  • Help gyda chostau byw: Cefnogaeth sydd ar gael yng Nghastell-nedd Port Talbot dros y gaeaf eleni
    01 Tachwedd 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ailbwysleisio’i ymrwymiad i gefnogi preswylwyr drwy’r argyfwng costau byw parhaus, gan sicrhau fod cymorth hanfodol ar gael i’r rheiny sy’n wynebu heriau ariannol dros y gaeaf eleni.