Datganiad I'r Wasg
-
Cynllun Corfforaethol yn datgelu gweledigaeth wyrddach, lanach a mwy ffyniannus ar gyfer Castell-nedd Port Talbot29 Gorffennaf 2024
NOD CYNGOR CASTELL-NEDD PORT TALBOT yw sicrhau fod pob plentyn lleol yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, bod preswylwyr yn mwynhau bywydau maith ac iach gyda swyddi gwyrdd sy’n talu’n dda, a bod yr ardal yn dod yn gyrchfan o ddewis ar gyfer byw, gweithio a hamddena.
-
Cytuno y bydd yr Arweinydd yn mynegi ‘pryder difrifol’ i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyllid cynghorau26 Gorffennaf 2024
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo cynnig yn galw ar ei Arweinydd, y Cyngh. Steve Hunt, i ysgrifennu llythyr i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn mynegi pryder difrifol ynglŷn â chyllid ar gyfer cynghorau lleol.
-
Gwaith gwerth £12m ar fin dechrau ar welliannau mawr ym Mharc Gwledig hanesyddol Ystâd Gnoll, Castell-nedd25 Gorffennaf 2024
MAE GWAITH AR FIN DECHRAU ar brosiect uchelgeisiol sy’n werth £12m i foderneiddio cyfleusterau i ymwelwyr ac adfer nodweddion hanesyddol yn atyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Parc Gwledig Ystâd Gnoll, sydd mor agos at galon cynifer.
-
Joey Pickard o Gyngor Castell-nedd Port Talbot wedi’i enwi’n Ecolegydd Llywodraeth Leol Ifanc y Flwyddyn y DU24 Gorffennaf 2024
Mae ecolegydd gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ennill gwobr nodedig am ei waith pwysig ar brosiect Mawndiroedd Coll De Cymru
-
Yr Heddlu’n ymchwilio lladrad ‘ffiaidd’ placiau metel o Gofeb Ryfel Castell-nedd24 Gorffennaf 2024
Mae Heddlu De Cymru’n chwilio am ladron sydd wedi dwyn dau blac metel o’r Clwydi Coffa ger mynediad Parc Gwledig Ystâd Gnoll yng Nghastell-nedd.
-
Gwefan y Cyngor yn cyrraedd deg uchaf Prydain am hygyrchedd18 Gorffennaf 2024
MAE GWEFAN GORFFORAETHOL Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael ei gosod yn neg uchaf gwefannau cynghorau’r Deyrnas Unedig am hygyrchedd, a’r awdurdod uchaf yng Nghymru, yn ôl y ‘Silktide Accessibility Index’ annibynnol.
-
Wythnos Dwristiaeth Cymru: Calon Ddramatig Cymru yn dathlu llwyddiant yr ymgyrch18 Gorffennaf 2024
Mae’r wythnos hon [15 – 19 Gorffennaf] yn nodi Wythnos Dwristiaeth Cymru, ac mae Calon Ddramatig Cymru’n cyhoeddi’r cerrig milltir allweddol a gyrhaeddwyd yn ei ymgyrch i ddenu mwy o ymwelwyr i aros dros nos yng Nghastell-nedd Port Talbot.
-
Ein Lle, Ein Dyfodol: Trawsnewidiad Diwylliannol ar y Ffordd i Gastell-nedd Port Talbot17 Gorffennaf 2024
Mae tair strategaeth ddeinamig newydd wedi’u lansio a fydd gyda’i gilydd yn ceisio cyflawni’r nod o fuddsoddi mewn diwylliant a threftadaeth er budd pobl leol, ac ar yr un pryd beri fod Castell-nedd Port Talbot yn gyrchfan a gydnabyddir yn genedlaethol i ymwelwyr erbyn 2030.
-
Rhian Thomas o Gastell-nedd Port Talbot yn cael ei henwi’n Addysgwr y Flwyddyn mewn Ysgol Gynradd gan wobrau cenedlaetho16 Gorffennaf 2024
MAE ATHRAWES O GASTELL-NEDD PORT TALBOT wedi ennill prif wobr yn y chweched Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru.
-
Gwobrau'r Faner Werdd i barciau a mannau gwyrdd yn chwifio fry ledled Castell-nedd Port Talbot16 Gorffennaf 2024
Mae nifer mawr o barciau a mannau gwyrdd ledled bwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot wedi cyrraedd y safonau uchel sy'n ofynnol er mwyn chwifio Baner Werdd glodfawr Cadwch Gymru'n Daclus unwaith eto.