Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Cynllunio rhaglen waith gwerth £4.2m i lanhau a glasu trefi, cymoedd a phentrefi Castell-nedd Port Talbot
    28 Tachwedd 2022

    Bydd gofyn i gynghorwyr Castell-nedd Port Talbot gymeradwyo rhaglen werth £4.2m i ‘lanhau a glasu’ trefi, cymoedd a phentrefi dros y deunaw mis nesaf.

  • 28 Tachwedd 2022

  • Pum prosiect ysgol newydd ar y gweill ar gyfer Castell-nedd Port Talbot
    25 Tachwedd 2022

    Mae cynghorwyr Castell-nedd Port Talbot wedi cytuno i gyflwyno cynllun gerbron Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllido cynlluniau i adeiladu pum ysgol fydd yn costio cyfanswm o £106.2m.

  • Gofyn i gynghorwyr gymeradwyo parcio rhad ac am ddim dros dymor yr ?yl yng Nghastell-nedd, Port Talbot a Phontardawe
    25 Tachwedd 2022

    Mae cais yn dod gerbron cynghorwyr Castell-nedd Port Talbot i gymeradwyo rhoi Parcio Nadolig Rhad ac am Ddim i ganol trefi Castell-nedd, Port Talbot a Phontardawe o ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr 2022 tan ddydd Sul 1 Ionawr 2023.

  • Cyhoeddi cynnig gweddnewidiol ar gyfer Porthladd Rhydd Celtaidd
    23 Tachwedd 2022

    Heddiw (23 Tachwedd 2022), cyhoeddodd consortiwm cyhoeddus-breifat eu cynnig gweddnewidiol ar gyfer Porthladd Rhydd Celtaidd, a fydd yn darparu llwybr carlam ar gyfer economi sero net Cymru. Disgwylir i’r cynnig greu dros 16,000 o swyddi newydd a chynhyrchu hyd at £5.5 biliwn o fuddsoddiad newydd.

  • Arbenigwr yn cynghori y gallai amgueddfa lofaol a gaewyd gael dyfodol disglair os oes cyllid ar gael
    22 Tachwedd 2022

    Mae arbenigwr ar amgueddfeydd a diwylliant wedi argymell y dylai Cyngor Castell-nedd Port Talbot gadw Amgueddfa Lofaol Cefn Coed a’i throi’n atyniad i ymwelwyr ac yn borth i’r ardal leol fel rhan o’r strategaeth dreftadaeth y mae wrthi’n datblygu.

  • Y Cyngor a Thai Tarian yn dechrau ar ddull newydd ar y cyd o fynd i’r afael â rheoli tir a lladd gwair
    17 Tachwedd 2022

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot a’r gymdeithas dai Tai Tarian yn dod ynghyd i sicrhau y bydd tir ar draws y fwrdeistref yn cael ei reoli yn y ffordd orau i annog bioamrywiaeth ac i hybu llesiant ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

  • 15 Tachwedd 2022

  • Enwi Parc Gwledig Margam yn un o’r goreuon yn y DU gyfan
    15 Tachwedd 2022

    Mae Parc Gwledig Margam wedi cael ei gynnwys fel un o’r deg o barciau a mannau gwyrdd gorau yn y DU yn dilyn pleidlais gyhoeddus.

  • Clymblaid yr Enfys yn cyhoeddi rhaglen o gyfarfodydd wyneb yn wyneb am y sefyllfa ariannol
    15 Tachwedd 2022

    Mae aelodau Clymblaid yr Enfys Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cyhoeddi dyddiadau a lleoliadau cyfres o cyfarfodydd cyhoeddus i drafod yr amodau ariannol cythryblus presennol a beth allai’r rhain eu golygu i’r cyngor a gwasanaethau’r cyngor.