Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Y cyngor yn cwblhau cynllun dau gam gwerth £3.5m i liniaru llifogydd yng Nglyn-nedd
    06 Awst 2024

    Mae Cynllun Lliniaru Llifogydd Glyn-nedd, sy'n werth £3.5m ac sydd wedi diogelu 251 o gartrefi a 23 o eiddo amhreswyl rhag llifogydd bellach wedi cael ei gwblhau.

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhoi hwb i rwydwaith arloesi digidol gyda Chanolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd
    02 Awst 2024

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn falch o gyhoeddi bod y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd (GCRE) wedi cytuno i gynnal un o'r pyrth Rhwydwaith Ardal Eang Pellgyrhaeddol (LoRaWAN), sy'n rhan o Rwydwaith Arloesi Digidol ehangach Dinas-ranbarth Bae Abertawe, ar ei safle 700 hectar ger Onllwyn.

  • Penodi Frances O'Brien yn Brif Weithredwr newydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot
    31 Gorffennaf 2024

    MAE CYNGOR CASTELL-NEDD PORT TALBOT wedi penodi Frances O'Brien yn Brif Swyddog Gweithredol newydd i olynu Karen Jones a gyhoeddodd ei phenderfyniad i ymddeol yn gynharach eleni.

  • Cynllun Corfforaethol yn datgelu gweledigaeth wyrddach, lanach a mwy ffyniannus ar gyfer Castell-nedd Port Talbot
    29 Gorffennaf 2024

    NOD CYNGOR CASTELL-NEDD PORT TALBOT yw sicrhau fod pob plentyn lleol yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, bod preswylwyr yn mwynhau bywydau maith ac iach gyda swyddi gwyrdd sy’n talu’n dda, a bod yr ardal yn dod yn gyrchfan o ddewis ar gyfer byw, gweithio a hamddena.

  • Cytuno y bydd yr Arweinydd yn mynegi ‘pryder difrifol’ i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynglŷn â chyllid cynghorau
    26 Gorffennaf 2024

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cymeradwyo cynnig yn galw ar ei Arweinydd, y Cyngh. Steve Hunt, i ysgrifennu llythyr i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn mynegi pryder difrifol ynglŷn â chyllid ar gyfer cynghorau lleol.

  • Gwaith gwerth £12m ar fin dechrau ar welliannau mawr ym Mharc Gwledig hanesyddol Ystâd Gnoll, Castell-nedd
    25 Gorffennaf 2024

    MAE GWAITH AR FIN DECHRAU ar brosiect uchelgeisiol sy’n werth £12m i foderneiddio cyfleusterau i ymwelwyr ac adfer nodweddion hanesyddol yn atyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Parc Gwledig Ystâd Gnoll, sydd mor agos at galon cynifer.

  • Joey Pickard o Gyngor Castell-nedd Port Talbot wedi’i enwi’n Ecolegydd Llywodraeth Leol Ifanc y Flwyddyn y DU
    24 Gorffennaf 2024

    Mae ecolegydd gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot wedi ennill gwobr nodedig am ei waith pwysig ar brosiect Mawndiroedd Coll De Cymru

  • Yr Heddlu’n ymchwilio lladrad ‘ffiaidd’ placiau metel o Gofeb Ryfel Castell-nedd
    24 Gorffennaf 2024

    Mae Heddlu De Cymru’n chwilio am ladron sydd wedi dwyn dau blac metel o’r Clwydi Coffa ger mynediad Parc Gwledig Ystâd Gnoll yng Nghastell-nedd.

  • Gwefan y Cyngor yn cyrraedd deg uchaf Prydain am hygyrchedd
    18 Gorffennaf 2024

    MAE GWEFAN GORFFORAETHOL Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael ei gosod yn neg uchaf gwefannau cynghorau’r Deyrnas Unedig am hygyrchedd, a’r awdurdod uchaf yng Nghymru, yn ôl y ‘Silktide Accessibility Index’ annibynnol.

  • Wythnos Dwristiaeth Cymru: Calon Ddramatig Cymru yn dathlu llwyddiant yr ymgyrch
    18 Gorffennaf 2024

    Mae’r wythnos hon [15 – 19 Gorffennaf] yn nodi Wythnos Dwristiaeth Cymru, ac mae Calon Ddramatig Cymru’n cyhoeddi’r cerrig milltir allweddol a gyrhaeddwyd yn ei ymgyrch i ddenu mwy o ymwelwyr i aros dros nos yng Nghastell-nedd Port Talbot.