Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Penodi contractwr i adeiladu cyfleuster newydd er mwyn helpu diwydiannau yn y rhanbarth i gyflawni Sero Net
    30 Awst 2023

    Mae cwmni Morgan Sindall Construction wedi cael ei gomisiynu i ddylunio ac adeiladu cyfleuster newydd gwerth £20m a gefnogir gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe yng Nghastell-nedd Port Talbot a fydd yn helpu diwydiant i ddatgarboneiddio.

  • Trefnwyr digwyddiadau'n cael eu gwahodd i ddod ynghyd ar gyfer g?yl
    29 Awst 2023

    Mae trefnwyr digwyddiadau yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cael eu gwahodd i gysylltu eu digwyddiadau eu hunain â G?yl Lluoedd Arfog Maer Castell-nedd Port Talbot 2023, a gynhelir ym mis Hydref a mis Tachwedd.

  • Ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dathlu canlyniadau TGAU
    24 Awst 2023

    Mae disgyblion yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion â chanlyniadau sy'n rhoi adlewyrchiad llawn o'u hymrwymiad, eu hymdrech a'u hymroddiad dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wedi bod yn heriol iawn yn sgil pandemig COVID-19.

  • Paratoadau olaf ar gyfer Ffair Medi Fawr Castell-nedd 2023!
    23 Awst 2023

    Mae'r trefniadau terfynol wrthi'n cael eu gwneud ar gyfer Ffair Medi Fawr eiconig Castell-nedd, sydd wedi bod yn cael ei chynnal ers dros 700 mlynedd – gan olygu ei bod yn un o'r ffeiriau siarter hynaf yn Ewrop.

  • Maethu Cymru’n tynnu sylw at fuddion maethu gydag awdurdod lleol
    18 Awst 2023

    Wrth i Lywodraeth Cymru symud ymlaen gyda chynlluniau i newid i fodelau gofal nid-er-elw ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Castell-nedd Port Talbot yn tynnu sylw at fuddion maethu gydag awdurdod lleol.

  • Dyn yn talu'n ddrud am dipio anghyfreithlon mewn ardal goediog ym Mhort Talbot
    17 Awst 2023

    Mae dyn a adawodd wastraff mewn ardal goediog yn Broomhill, Port Talbot, fwy nag unwaith wedi ymddangos gerbron Ynadon Abertawe.

  • Ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dathlu canlyniadau Safon Uwch ardderchog
    17 Awst 2023

    Mae myfyrwyr ac athrawon Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur a Chanolfan Chweched Dosbarth Gatholig Joseff Sant ym Mhort Talbot, sef y ddwy ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n cynnig addysg ôl-16, yn cael eu llongyfarch am eu llwyddiannau yn 2023. Mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn mynychu Gr?p Colegau NPTC i barhau â'u haddysg ôl-16.

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar y rhestr fer ar gyfer gwobr ‘Cyngor y Flwyddyn’ y DU
    16 Awst 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael ei ddewis ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gyffredinol Cyngor y Flwyddyn 2023 gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus (APSE).

  • A ddylai'r cyngor godi cyfraddau Treth Gyngor uwch ar berchnogion ail gartrefi a chartrefi sy'n wag am gyfnodau hir?
    14 Awst 2023

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn ceisio barn trigolion ar b'un a ddylai godi cyfraddau Treth Gyngor uwch ar berchnogion ail gartrefi ac eiddo sy'n wag am gyfnodau hir ai peidio.

  • Tocynnau parcio ar gael ar gyfer dechrau cymal olaf Tour of Britain ym Mharc Gwledig Margam
    11 Awst 2023

    Eleni, fel rhan o Tour of Britain, sef ras feicio fwyaf y DU, bydd dros 100 o feicwyr gorau'r byd yn rasio o Barc Gwledig hardd Margam i'r llinell derfyn yng nghysgod Castell Caerffili ddydd Sul 10 Medi.