Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Datganiad I'r Wasg

  • Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn Trafod Dyfodol Gwasanaethau Hamdden Dan Do
    06 Medi 2024

    Bydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn trafod dyfodol ei wasanaethau hamdden dan do yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Addysg, Sgiliau a Llesiant ddydd Iau, 12 Medi.

  • Y Cyngor yn cyhoeddi y bydd yn cynyddu capasiti er mwyn ymateb i gau'r pen trwm yn Tata
    04 Medi 2024

    Rhoddwyd gwybod i aelodau Cyngor Castell-nedd Port Talbot mewn cyfarfod o'r Cyngor llawn ar 4 Medi 2024 y bydd y Cyngor yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi busnesau a phobl y bydd newidiadau yn Tata Steel UK Ltd yn effeithio arnynt yn dilyn cyhoeddiad cyllid sylweddol a wnaed gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 8fed cyfarfod Bwrdd Pontio Tata.

  • Annibyniaeth Ddigidol: Gwasanaeth CNPT yn helpu dros 300 o breswylwyr
    30 Awst 2024

    Mae mwy na 300 o breswylwyr o Gastell-nedd Port Talbot wedi defnyddio gwasanaeth am ddim y bwriedir iddo eu helpu i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain gan ddefnyddio technoleg.

  • Yn dod yn fuan – parc chwarae antur newydd gwerth £210,000 i Draeth Aberafan gyda Chawr Cefnfor rhyfeddol
    29 Awst 2024

    Mae parc chwarae antur fydd yn ‘gyrchfan’, a wnaed yn rhannol o wastraff wedi’i ailgylchu o’r cefnfor, ac yn cynnwys tŵr chwarae 8.9m o uchder gyda waliau dringo a llithren diwb gyffrous ar ei ffordd i Draeth Aberafan.

  • Cyngor i gynnal Digwyddiad Cefnogi Landlordiaid
    29 Awst 2024

    Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn bwriadu cynnal digwyddiad rhad ac am ddim ar gyfer landlordiaid sy’n gosod eiddo ar rent yn y fwrdeistref sirol. Nod y digwyddiad hwn yw rhannu gwybodaeth werthfawr ynghylch y gefnogaeth sydd ar gael a’r cyfleoedd am gyllid.

  • Fan-tastic! Fflyd werdd gynyddol cyngor yn cyrraedd carreg filltir 50 cerbyd
    28 Awst 2024

    Mae fflyd gynyddol Cyngor CASTELL-NEDD PORT TALBOT o gerbydau trydan ac allyriadau isel bellach wedi cyrraedd 50, wrth i’r cyngor barhau i wthio am ddyfodol glanach, gwyrddach.

  • Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU o Fudd i Gymunedau drwy Fuddsoddi mewn 16 o Brosiectau sy'n Seiliedig ar Sgiliau!
    23 Awst 2024

    Bwriedir i gyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar gyfer prosiectau ledled Castell-nedd Port Talbot wella sgiliau craidd, cynorthwyo cynnydd y gweithlu, lleihau anweithgarwch economaidd, a mynd i'r afael â bylchau sgiliau lleol.

  • Ysgolion yng Nghastell-nedd Port Talbot yn dathlu canlyniadau TGAU
    22 Awst 2024

    Mae disgyblion yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion â chanlyniadau sy'n rhoi adlewyrchiad llawn o'u hymrwymiad, eu penderfynoldeb a'u hymroddiad dros y blynyddoedd diwethaf. Mae perfformiad mewn cymwysterau TGAU a chymwysterau galwedigaethol yn 2024 yn dychwelyd i lefelau tebyg i'r rhai a welwyd cyn y pandemig, gyda'r rhan fwyaf o ddisgyblion Castell-nedd Port Talbot yn ennill o leiaf bum gradd TGAU A*-C neu raddau cyfatebol.

  • Dyddiad i'r dyddiadur – bydd Gŵyl Bwyd a Diod Castell-nedd yn dychwelyd yn 2024!
    22 Awst 2024

    Bydd Gŵyl Bwyd a Diod flynyddol Castell-nedd yn dychwelyd i Ganol Tref Castell-nedd ddydd Gwener, 4 Hydref, a dydd Sadwrn, 5 Hydref, 2024 (10am – 5.30pm ar y naill ddiwrnod a'r llall).

  • Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Buddsoddi mewn Prosiectau Rhifedd yng Nghastell-nedd Port Talbot
    21 Awst 2024

    Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gwneud cynnydd mawr tuag at fynd i'r afael â heriau rhifedd sy'n wynebu trigolion Castell-nedd Port Talbot drwy fuddsoddi mewn wyth prosiect arloesol o dan raglen ‘Lluosi’. Mae'r prosiectau'n cynnig gweithdai a chyrsiau rhifedd am ddim sydd â'r nod o wella sgiliau mathemateg beunyddiol trigolion, waeth beth fo'u cefndir ac, yn y rhan fwyaf o achosion, eu cymwysterau blaenorol, a thrwy hynny wella rhagolygon cyflogaeth a llesiant cyffredinol trigolion.