Cronfa Tlodi Bwyd 2024/25
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi derbyn cyfanswm o £156,704.59 gan Lywodraeth Cymru i daclo’r argyfwng tlodi bwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Pwy sy'n gymwys i ymgeisio?
- Sefydliadau elusennol neu wirfoddol, rhai sydd â nodau elusennol a sefydliadau nid-er-elw-preifat
- Ni fydd asiantaethau statudol yn cael eu cyllido ar gyfer cyflawni gweithgareddau y mae arnynt rwymedigaeth gyfreithiol i’w cyllido, serch hynny, mae gweithgareddau anstatudol yn gymwys
- Bydd ysgolion yn gymwys i ymgeisio ar gyfer gweithgareddau sy’n cefnogi atal neu leddfu tlodi bwyd.
Meini prawf cyllido
Cefnogi sefydliadau i ateb anghenion nifer gynyddol o bobl a chwsmeriaid sy’n wynebu tlodi bwyd, a chefnogi gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag achosion gwreiddiol tlodi bwyd.
Dyma enghreifftiau o wariant sy’n gymwys, ond nid yw’n rhestr gynhwysfawr:
- prynu cyflenwadau ychwanegol o fwyd a deunyddiau hanfodol;
- ffioedd aelodaeth Fareshare;
- prosiectau tyfu / coginio cymunedol â’r nod o daclo tlodi ac ansicrwydd bwyd.
- costau ychwanegol a wariwyd o ganlyniad i gynnydd mewn galw;
- costau a wariwyd o ganlyniad i waith allgyrraedd ychwanegol hanfodol, yn enwedig er mwyn cyrraedd at y bobl fwyaf bregus;
- hyfforddi gwirfoddolwyr;
- Cefnogaeth i sefydliadau sy’n profi anawsterau wrth weithredu’n effeithiol. Fe all hyn gynnwys, er enghraifft, ond heb ei gyfyngu i:
- rai gorbenion
- costau gwirfoddolwyr
- gefnogaeth i dalu costau ychwanegol a wariwyd o ganlyniad i gynnydd mewn galw fel rhai sy’n ymwneud â darparu cyflenwadau ychwanegol
- Costau cychwynnol datblygu gwasanaethau ym maes darpariaeth bwyd cymunedol, fel:
- archfarchnadoedd cymdeithasol
- caffis cymunedol
- clybiau cinio
- gwasanaethau a hybiau cyngor a sefydlwyd o gwmpas darparu bwyd cymunedol a / neu arwyddbostio pobl i asiantaethau all helpu gyda phroblemau sy’n arwain at dlodi bwyd
- partneriaethau bwyd, gyda golwg ar greu cynlluniau bwyd lleol sy’n helpu i daclo ansicrwydd bwyd
>Mae hyd at £7,500 ar gyfer pob cais:
- cyfalaf hyd at £5,000
- refeniw hyd at £2,500
Gwariant anghymwys
Ni all y grant hwn dalu costau cynnal blynyddol sefydliad, na chostau sy’n ymwneud â nodau ac amcanion busnes beunyddiol arferol e.e. costau staff, biliau cyfleustodau, costau yswiriant ac ati.
Lefelau ariannu
Fe all faint sydd ar gael newid yn dibynnu ar faint sy’n gofyn am arian, a faint o arian sydd ar ôl yn y gronfa wrth i’r flwyddyn fynd heibio. Efallai y bydd symiau uwch ar gael pan fydd sefydliadau lluosog yn dymuno cydweithio ar draws sectorau neu Awdurdodau Lleol gwahanol er mwyn datblygu a chryfhau partneriaethau bwyd, gyda’r nod o greu cynlluniau bwyd cynaliadwy sy’n helpu i daclo ansicrwydd bwyd.
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus wario’r cyllid a glustnodwyd ar eu cyfer erbyn 31 Mawrth 2025.
Pryd a sut i ymgeisio
Gellir gwneud cais i’r gronfa ar unrhyw adeg, naill ai hyd nes y bydd:
- yr arian grant yn dod i ben
- rhy agos at y terfyn ar 31 Mawrth 2025 i allu prosesu a gwario’r arian
Gall sefydliadau ymgeisio fwy nag unwaith cyhyd â bod ceisiadau’n wahanol neu ar gyfer gweithgareddau cyfenwol.
Darllenwch Canllawiau Cronfa Tlodi Bwyd cyn cwblhau eich cais os gwelwch yn dda.
Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus gwblhau Ffurflen Cwblhau Cyllid a darparu tystiolaeth o wariant, a bydd angen dychwelyd unrhyw danwariant i’r Gronfa.
Cysylltwch os gwelwch yn dda â Swyddog Cefnogi Busnes Castell-nedd Port Talbot os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â gwneud cais: dros e-bost communityfoodconnections@npt.gov.uk
Anfonwch eich ffurflen gais wedi’i chwblhau gan gynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol yn ôl y galw, dros e-bost at communityfoodconnections@npt.gov.uk
Llawrlwytho
-
Cronfa tlodi bwyd 2024/25 - canllawiau (DOCX 63 KB)
-
Cronfa tlodi bwyd 2024/25 - ffurflen gais (DOCX 70 KB)