Cynnal a Chadw dros y Gaeaf
Caiff hyn ei gyflawni trwy gynnal mynediad i wasanaethau a chyflogaeth trwy sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw eira ac iâ yn peryglu tramwyo'n ddiogel ar hyd y briffordd. Er mwyn cydymffurfio, byddwn yn gwneud y canlynol:-
- Ymateb i newidiadau mewn deddfwriaeth.
- Cydymffurfio ag argymhellion ar gyfer cynnal a chadw dros y gaeaf yn y Côd Ymarfer ar gyfer Rheoli Cynnal a Chadw a hefyd ddilyn arweiniad oddi wrth NWSRG.
- Cyhoeddi Cynllun Cynnal a Chadw dros y Gaeaf.
- Adolygu'r Cynllun Cynnal a Chadw dros y Gaeaf yn flynyddol, gan gynnwys ymgynghoriad â rhanddeiliaid.
- Graeanu ffyrdd a throedffyrdd fel mesur rhagofalus yn unol â'r Cynllun Cynnal a Chadw dros y Gaeaf.
- Ymateb i alwadau gan y cyhoedd yn unol â'r blaenoriaethau a amlinellwyd yn y Cynllun Cynnal a Chadw dros y Gaeaf.
- Rhoi ei fesurau argyfwng ar waith trwy staffio 24 awr a chysylltu â'r cyhoedd os bydd tywydd argyfyngus.
- Gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i gynyddu cyfathrebu cymaint â phosib a lleihau'r perygl i'r cyhoedd.
- Defnyddio dulliau o sicrhau effeithiolrwydd a diogelwch wrth leihau'r effaith ar yr amgylchedd.
- Darparu gwybodaeth gyhoeddus am y Cynllun Cynnal a Chadw dros y Gaeaf, trwy arddangos y llwybrau i'w graeanu fel mesur rhagofalus yn y canolfannau dinesig a chyhoeddi'r rhain ar y rhyngrwyd.
- Adolygu'n flynyddol y defnydd o finiau graean a'u darpariaeth.