Hawliau Mynediad
Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn briffyrdd sydd â hawliau mynediad amrywiol ac sydd wedi'u cofnodi ar Fap Diffiniol. Maent yn cynnwys:
Llwybrau Cerdded
Priffyrdd cyhoeddus y mae gan y cyhoedd hawl tramwy arnynt ar droed yn unig.
Llwybrau Ceffyl
Priffyrdd cyhoeddus lle gall y cyhoedd farchogaeth, arwain ceffyl, cerdded neu feicio. Rhaid i feicwyr ildio i gerddwyr a marchogwyr.
Cilffyrdd Cyfyngedig
Yr holl hawliau uchod yn ogystal â'r hawl i yrru cerbydau a dynnir gan geffylau.
Cilffyrdd sy'n Agored i Bob Traffig (BOAT)
Yr holl hawliau uchod yn ogystal â'r hawl i yrru cerbydau a yrrir yn fecanyddol. Nid oes dyletswydd ar yr awdurdod priffyrdd i ddarparu wyneb ffordd sy'n addas i gerbydau.
Mae hawliau mynediad eraill yn cynnwys:
Llwybrau caniataol lle mae'r tirfeddiannwr wedi caniatáu hawl mynediad cyhoeddus.
Tir comin - Ceir mynediad cyhoeddus i gerddwyr i'r holl diroedd comin cofrestredig er mwyn cael awyr iach ac ymarfer corff. Nid oes hawl i'r cyhoedd feicio na gyrru cerbyd a yrrir yn fecanyddol ar dir comin.
Tir agored - Hawl mynediad cyhoeddus ar droed i ardaloedd o fynyddoedd, gweunydd, rhostiroedd a bryniau, yn ogystal ag ardaloedd y mae tirfeddianwyr wedi'u dynodi ar gyfer mynediad cyhoeddus. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dynodi'i goedwigoedd dan deitl rhydd-ddaliad ar gyfer mynediad cyhoeddus.
Ardaloedd mynediad caniataol - Mae'r tirfeddiannwr wedi caniatáu hawl mynediad cyhoeddus ar droed. Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys rhai parciau gwledig, coetiroedd sy'n eiddo'r cyngor neu Coed Cadw, gwarchodfeydd natur a rhai rhannau o'r arfordir.
Llwybrau beicio - hawl cyhoeddus i feicio gyda neu heb yr hawl i gerdded neu farchogaeth.