Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Trwydded caffi stryd

Mae Deddf RheoleiddioTraffig Ffyrdd 1980, Is-adran 115, {fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol(Darpariaethau Amrywiol) 1982}, yn awdurdodi'r cyngor i gyflwyno trwyddedi ar gyfer "darparu, cynnal a chadw cymwysterau ar gyfer lluniaeth ar y briffordd" - h.y. caffis stryd. Gall mwy o wybodaeth ar gaffis stryd a rhwystrau ar y briffordd gael ei lawrlwytho.

Gweler y manylion isod ar sut i wneud cais am drwydded caffi stryd.

Pwy all wneud cais?

Bydd y cyngor yn cyflwyno trwyddedi ar gyfer gosod byrddau a chadeiriau y tu allan i gaffis, tafarnau ac adeiladau tebyg er mwyn gweini lluniaeth. Bydd y mannau caffi yn rhoi cyfle i fusnesau ehangu, mewn modd cost-effeithiol, i ddarparu mwy o ddewis i gwsmeriaid.

Mae trwyddedi stondinau ar gyfer masnachu ar y stryd ac ar gyfer adeiladau sy'n gwerthu alcohol yn destun deddfwriaeth arall sy'n cael ei gweinyddi gan Is-adran Drwyddedu'r cyngor. Felly, bydd rhaid i adeiladau sydd â thrwydded i werthu alcohol ac sy'n dymuno darparu byrddau a chadeiriau ar y palmant neu mewn ardal i gerddwyr y tu allan i'r adeilad, gael trwydded ychwanegol fel y'i nodir yn y polisi hwn.

Amodau'r hawlen

Mae caffis stryd yn ychwanegu lliw ac awyrgylch i drefi'r fwrdeistref sirol.  Mae'r cyngor yn awyddus i annog bod caffis stryd, lle bynnag y byddant yn cael eu gosod, o ansawdd a dyluniad da. Bydd y cyngor yn ystyried pob cais am drwydded ar ei haeddiant, gan ystyried y ffactorau canlynol:

  • A yw'r caffi mewn ardal i gerddwyr
  • Nifer y cerddwyr a'r cerbydau yn y lleoliad
  • Lled y palmant sydd ar gael
  • Celfi stryd sydd eisoes yn yr ardal
  • Yr angen i sicrhau y gall cerddwyr symud o gwmpas heb anhawster.
  • Mynediad ar bob adeg i'r gwasanaethau argyfwng

Rhaid bod gan fusnesau yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth o leiaf £2 filiwn, parchu iechyd a diogelwch y cyhoedd a chadw'r lle'n daclus.

Gweler Canllawiau Caffis Stryd ar gyfer y meini prawf a fydd yn sail i ystyried ceisiadau, a hefyd y gofynion ar gyfer cynllun a ffiniau ardaloedd trwyddedig.

Sut rwy'n gwneud cais?

Mae ffurflenni cais ar gael ar y ffurf ganlynol:

  • Lawrlwytho ffurflen cais am gaffi stryd 
  • Mae ffurflenni cais wedi'u hargraffu ar gael trwy'r post.

Rhaid i ffurflenni cais gael eu cwblhau yn llawn a'u dychwelyd i'r Adran Gwaith Stryd.

Beth fydd y gost?

Ar hyn o bryd nid oes tâl ar gyfer gwneud cais am drwydded caffi stryd..

Pa mor hir bydd y drwydded yn para a beth yw'r broses adnewyddu?

Mae trwyddedi caffi stryd yn ddilys am 12 mis. Os dymunwch estyn y drwydded ar ôl y cyfnod cychwynnol 12 mis, bydd rhaid i chi wneud cais am drwydded newydd.

Faint o amser bydd angen i brosesu fy nghais?

Fel arfer mae ceisiadau'n cael eu prosesu o fewn 28 niwrnod.

Ydy caniatâd dealledig yn berthnasol?

Ydy. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei gymeradwyo os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn 28 niwrnod.

Os yw fy nghais yn cael ei wrthod, sut mae apelio?

Nid oes cam apelio. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn ag unrhyw benderfyniad, cysylltwch â'r Adran Gwaith Stryd.

Manylion Cyswllt

Cyfarwyddiadau i SA11 2GG
Adran Gwaith Stryd
Y Ceiau Ffordd Brunel,
Llansawel Castell-nedd
SA11 2GG pref
(01639) 686338 (01639) 686338 voice +441639686338

Llawrlwytho

  • Street cafe application (PDF 104 KB)
  • Street cafe guidance notes (PDF 743 KB)
Lawrlwythwch...
Pecynnu:  
Cwblhau