Cofrestru fel Gweithredwr Sgip
Mae angen hawlen sgip er mwyn gosod sgip adeiladwr ar y briffordd, dan ddarpariaethau Adran 139 Deddf Priffyrdd 1980. Cyn gwneud cais am hawlen sgip yng Nghastell-nedd Port Talbot, bydd angen i chi gofrestru gyda'r awdurdod fel gweithredwr sgip.
Amodau ar gyfer cofrestru
Er mwyn cofrestru fel gweithredwr sgipiau, mae angen yr wybodaeth ganlynol ar yr awdurdod:
- Enw cyswllt
- Cyfeiriad post y cwmni
- Rhif ffôn cyswllt
- Rhif ffôn argyfwng 24 awr
- Rhif ffacs
- Cyfeiriad e-bost
- Rhif y drwydded cludwr gwastraff (cliciwch yma am fwy o wybodaeth - Cyfoeth Naturiol Cymru)
- Copi o dystysgrif yswiriant atebolrwydd cyhoeddus - gyda lleiafswm yswiriant o £5 miliwn (peidiwch ag anfon y ddogfen wreiddiol).
Beth fydd y gost?
Ni chodir tâl am gofrestru.
Pa mor hir bydd y drwydded yn para?
Mae'ch cofrestriad yn ddilys ar yr amod bod eich yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a'ch trwydded cludwr gwastraff yn ddilys.
Faint o amser bydd ei angen i brosesu fy nghais?
Fel arfer bydd eich cais yn cael ei brosesu o fewn pum niwrnod gwaith.
A fydd caniatâd dealledig yn berthnasol?
Ydy. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei gymeradwyo, os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn 15 niwrnod gwaith iddynt dderbyn cais wedi'i gwblhau.
Os yw fy nghais yn cael ei wrthod, sut mae apelio?
Nid oes gweithdrefn apelio. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am unrhyw benderfyniad, ffoniwch yr Adran Gwaith Stryd ar 01639 686338.
Sut galla i roi gwybod am unrhyw newid i'm hamgylchiadau?
Cysylltwch â'r Adran Gwaith Stryd i roi gwybod i ni.