Arwyddion Dros Dro a Baneri
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn caniatáu gosod arwyddion dros dro ar y briffordd er mwyn hysbysebu digwyddiadau a drefnir gan y gymuned, gwasanaethau cyhoeddus neu elusennau.
Cyn gosod unrhyw arwyddion/baneri, rhaid i'r Is-adran peirianneg dderbyn Ffurflen Gais a Ffurflen Atebolrwydd wedi'u cwblhau. Pan fydd y Ffurflen Gais wedi'i chymeradwyo, bydd trefniadau'n cael eu cadarnhau.
Mae'n ofynnol bod unrhyw arwydd/baner yn cael ei gosod ar yr amser a gytunwyd arno a dim mwy na 2 wythnos cyn digwyddiad a'i bod yn cael ei symud o fewn 24 awr wedi cynnal y digwyddiad.
Unwaith y bydd archeb yn cael ei gadarnhau gallwch godi'r baneri o fore Llun a'u symud erbyn nos Sul.
Dylai pob arwydd/baner fod yn ddwyieithog yn unol â Chynllun yr Iaith Gymraeg Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.
Gellir gosod arwyddion/baneri dros dro ar y safleoedd canlynol:-
Castell-nedd
- Rheilen Warchod Morrisons (gyferbyn â'r orsaf betrol)
- Rheilen Warchod Gerddi Victoria (tu allan i'r feddygfa)
- Rheilen Warchod Cylchfan Canolfan Ddinesig Castell-nedd
- Rheilen Warchod Cylchfan Cornel Stockham
Port Talbot
- Rheilen Warchod Theatr y Dywysoges Frenhinol/Canolfan Ddinesig Port Talbot
- Gard rheilffordd (gyferbyn brif fynedfa)
Glyn-nedd
- Gard rheilffordd (gyferbyn 110 High Street
Pontardawe
- A474 Rheilen Warchod (ar safle bws)
Cyn gosod unrhyw arwyddion/baneri, rhaid i'r Is-adran Draffig dderbyn Ffurflen Gais a Ffurflen Atebolrwydd wedi'u cwblhau.
Llawrlwythiadau
-
Ffurflen gais arwyddion dros dro a baneri (DOCX 35 KB)
-
Arwyddion dros dro a baneri - ffurflen atebolrwydd (DOCX 35 KB)
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch ceisiadau am arwyddion dros dro ar gyfer digwyddiadau wedi'u trefnu, cysylltwch â'r Is-adran Perianneg ar 01639 686906.