Gwasanaethau llyfrgell
Bydd gan aelodau Llyfrgelloedd Castell-nedd Port Talbot fynediad at lawer o adnoddau.
Darganfyddwch sut i ymuno â llyfrgell
Gwasanaethau a thaliadau
Gweld ein gwasanaethau a thaliadau ar gyfer:
- amlgyfrwng
- argraffu, sganio a chopïo
- adnoddau
- mannau arddangos a llogi ystafelloedd
Gallwch hefyd fewngofnodi i'ch cyfrif i osod eich archeb.
Wifi
Mae ein holl lyfrgelloedd yn cynnig Wi-Fi am ddim. Ar gael i aelodau llyfrgell Castell-nedd Port Talbot yn ystod oriau agor.
Mewngofnodwch ar eich dyfais (ar gael yn y llyfrgell), yna nodwch rif eich cerdyn llyfrgell a PIN.
Mae mynediad i Wi-Fi y llyfrgell yn cael ei reoli'n ddiogel drwy'r rhwydwaith llyfrgelloedd cyhoeddus.
Argraffu, sganio a chopïo
Bydd eich cerdyn llyfrgell yn rhoi mynediad i chi i argraffu, sganio a chopïo Wi-Fi.
Dilynwch y camau isod:
- Gwnewch yn siŵr bod y ddogfen rydych chi am ei hargraffu yn cael ei lawrlwytho ar eich dyfais.
- Mewngofnodi gyda rhif eich cerdyn llyfrgell a pin
- Dewiswch Argraffu dogfen
- Darllenwch y wybodaeth ar y dudalen Argraffu Uwchlwytho a chliciwch ar Dechrau Arni
- Cliciwch Ychwanegu ffeil +. Gallwch uwchlwytho 5 ffeil ar unwaith
- Pan fyddwch wedi gorffen dewis eich ffeiliau cliciwch Cyflwyno
- Rhowch rif eich cerdyn llyfrgell i'r aelod o staff a chasglwch eich printiau.
Cyfeirio a hanes teulu
Chwiliwch biliynau o gofnodion a darganfyddwch stori eich teulu gydag Ancestry Library Edition.
- dechreuwch chwilio biliynau o gofnodion a darganfyddwch stori eich teulu
- 820 miliwn o gofnodion hanes teulu y DU y gellir eu chwilio
- cyfrifiadau Cymru, Lloegr a'r Alban o 1841 i 1901
- cofnodion Genedigaethau, Priodasau a Marwolaethau Cymru a Lloegr rhwng 1837 a 2005
Dim ond ar gyfrifiadur personol y llyfrgell y gallwch chi gael mynediad i Ancestry Library Edition.
Mewngofnodi gyda rhif eich cerdyn a chod pin, yna cliciwch y ddolen achau.
Casgliadau cyfeirio a hanes lleol
Mae gan lyfrgelloedd Castell-nedd a Phort Talbot gasgliadau cyfeirio helaeth ar gyfer amrywiaeth eang o:
- llyfrau
- papurau newydd
- cylchgronau
- lyffrau hanes lleol
- mapiau arolwg ordnans cyfredol a hanesyddol
- papurau newydd lleol
- mwy na 2000 o ffotograffau
- cofnodion y cyfrifiad
- cofrestrau etholiadol
- cofnodion y cyngor
Yn llyfrgell Castell-nedd gallwch drefnu sesiwn cyflwyno achyddiaeth un i un gyda’r staff sy’n cynnwys:
- cyflwyniad i'r holl adnoddau sydd ar gael yn y llyfrgell
- tiwtorial ar-lein ar gyfer Ancestry Library Edition
- cyfarfodydd hanes lleol misol yn agored i bawb
Mae Llyfrgell Port Talbot yn cefnogi ymchwil hanes teulu a hanes lleol mewn sawl ffordd:
- trefnu sesiynau ymchwil hanes teulu misol gydag Archifau Gorllewin Morgannwg
- cyfarfodydd hanes lleol misol yn agored i bawb
- mynediad i Microffilm a Microfiche
Am fwy o wybodaeth am hanes teulu a hanes lleol, cysylltwch â: