Gwasanaeth llyfrgell gartref
Ddim yn gallu ymweld â'ch llyfrgell leol? Gadewch i ni ddod â'r llyfrgell atoch chi.
Llyfrgell gartref
- mae'r Gwasanaeth Llyfrgell Gartref yn rhad ac am ddim
- rydym yn cefnogi pobl o bob oed sy'n cael anhawster i gael mynediad i'r llyfrgell
- staff ymroddedig a hyfforddedig
- delio â pherson enwebedig o'ch dewis
- nid ydym yn cynnal unrhyw asesiadau o'ch iechyd na'ch cyflyrau meddygol presennol
- mae unrhyw wybodaeth bersonol yn gwbl gyfrinachol
- cyfeirio eich hun neu ofyn i ffrind, aelod o'r teulu neu weithiwr proffesiynol fel gweithiwr cymdeithasol eich cyfeirio
- gallwch atgyfeirio rhywun arall os ydych yn credu y byddai'n elwa o'r gwasanaeth
Gwasanaethau a ddarparwn
- ymweliadau rheolaidd am ddim (bob 6 wythnos fel arfer)
- benthyciadau llyfrgell a ddarperir yn uniongyrchol i'ch cartref
- archebion am ddim
- cyfnod benthyca hirach
- newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg
- dim ffioedd neu ddirwyon
- gwasanaeth ledled y sir i holl drigolion CNPT
Eitemau sydd ar gael
- detholiad eang o lyfrau ffuglen a ffeithiol i oedolion mewn print arferol a bras
- llyfrau sain ar ffurf casét, CD ac MP3
- benthyg offer sain drwy Gronfa Di-wifr Prydain i'r Deillion (prawf cymhwysedd)
- mynediad i e-lyfrau
- Cymraeg
Gweler ffioedd gwasanaethau llyfrgell i weld beth sydd ar gael
Ar ôl i chi ymuno
Ar ôl i chi ymuno â'r gwasanaeth byddwn yn:
- cadarnhau dyddiad ac amser amcangyfrifedig eich dosbarthiad cyntaf
- esbonio sut mae'r gwasanaeth yn gweithredu
- rhoi gwybod pa mor aml y byddwn yn ymweld â'ch cartref
Sut i wneud cais
Gallwch gysylltu â'r gwasanaeth gan ddefnyddio'r manylion isod:
Cyfarwyddiadau i SA11 2BQ
Pencadlys Llyfrgell CNPT
Ysgol Ynysmaerdy
Ffordd Castell-nedd
Llansawel
SA11 2BQ
pref