Rhowch wybod am blâu, gordyfiant a gwastraff sydd ddim ar eich tir
Llygod mawr sydd ddim ar eich tir
Ar gyfer problemau pla sydd ddim ar eich tir, bydd Swyddogion Gorfodi yn:
- ymchwilio i honiadau cyn cymryd camau cyfreithiol
- archwilio eiddo'r achwynydd a'r tir cyfagos
- gosod abwyd i ddod o hyd i dystiolaeth o blâu
Os nad oes unrhyw arwydd o gnofilod, ni fyddwn yn cymryd camau pellach.
Gerddi wedi gordyfu neu dir sy'n denu plâu
Dim ond lle mae tystiolaeth o lygod mawr yn cael eu tynnu i'r tir y mae Swyddogion Rheoli Plâu yn delio â gerddi.
Dydyn nhw ddim yn delio â gerddi sy'n flêr, gan achosi hyllbeth neu niwsans.
- gwrychoedd wedi gordyfu
- ceir rhydu
- tir blêr
Beth sy'n denu plâu
Gall croniad gwastraff ddenu plâu sy'n lledaenu clefydau ac sy'n niweidiol i iechyd.
Os yw croniad o wastraff yn debygol o ddenu cnofilod, efallai y byddwn yn cymryd camau gorfodi.
- sachau sbwriel a gwastraff arall yn cronni
- bwydo adar yn ormodol
- gwastraff bwyd yn pydru
- llystyfiant trwchus, wedi gordyfu
- tomen compost a reolir yn wael
- gwastraff adeiladwyr
- hen offer
Rhowch wybod am broblem pla sydd ddim ar eich tir
Gallwch lenwi ein ffurflen ar-lein gyda’ch manylion cyswllt i ddweud wrthym am:
Llygod mawr ar eich tir
Rydym yn cynnig gwasanaethau triniaeth â thâl proffesiynol ar gyfer llygod mawr ar eich eiddo.
Gall ein Swyddogion Rheoli Plâu ddarparu cyngor sylfaenol dros y ffôn.
Busnesau newydd
Os ydych yn gwsmer busnes newydd, rydym yn cynnig gwiriad rheoli pla cychwynnol AM DDIM o'ch safle. Mae hyn yn cynnwys:
- arolwg safle
- cyngor ar y cynllun atal gorau
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwiriadau rheoli plâu am ddim, cysylltwch â: