Niwsans sŵn
Darganfyddwch beth i'w wneud os oes gennych gŵyn sŵn a pha gamau y gallwch eu cymryd.
Sŵn y gallwn ymdrin ag ef
Y mathau o sŵn rydym yn derbyn y mwyaf o gwynion amdanynt yw:
- cŵn yn cyfarth
- larymau lladron
- larymau car (pan yn llonydd)
- stereos car (pan yn llonydd)
- adeiladu a dymchwel
- adloniant
- ffatrïoedd / safleoedd diwydiannol
- cerddoriaeth uchel
- anghydfod rhwng cymdogion
Sŵn na allwn ymdrin ag ef
Y mathau o sŵn na allwn ymdrin  nhw yw:
- ymddygiad gwrthgymdeithasol
- awyrennau milwrol
- awyrennau cludo teithwyr
- gweiddi a churo drysau
- traffig
Rhoi gwybod am niwsans sŵn
Gallwch roi gwybod am niwsans sŵn ar-lein.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen:
- eich new
- eich cyfeiriad
- enw o'r person sy'n achosi'r broblem (os ydych chi'n ei wybod)
- cyfeiriad y person sy'n achosi'r broblem
Beth fydd yn digwydd nesaf
Ar ôl rhoi gwybod am eich cwyn sŵn byddwn yn:
- ysgrifennu atoch i gadarnhau derbyn eich cwyn
- cynnwys taflen dyddiadur i chi ei llenwi
- gofyn i chi gadw cofnod o'r sŵn dros ddwy i dair wythnos
- angen i chi anfon y taflenni yn ôl atom er mwyn i swyddog eu harchwilio
- ymchwilio ymhellach i'ch cwyn os credwn fod problem sŵn go iawn
- ymweld â'ch cartref i drafod y broblem gyda chi