Astudiaeth beilot monitro ansawdd aer
Am beth mae'n ymwneud
Mae'r Prosiect Monitro Ansawdd Aer yn astudiaeth beilot sy'n brofi'r cysyniad o fonitro llygredd aer yn lleol. Mae'n rhan o brosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe o'r enw “Cefnogi Arloesi a Thwf Carbon Isel’, dan arweiniad Cyngor CNPT. Fe'i cyflwynir fel rhan o Strategaeth Datgarboneiddio ac Ynni Adnewyddadwy (DARE) y cyngor.
Nod yr astudiaeth beilot yw sicrhau gwell dealltwriaeth o ansawdd aer ar lefel leol drwy ddefnyddio technoleg ddigidol.
Mae gwell data yn golygu y gallwn:
- targedu ymyriadau'n fwy effeithiol,
- nodi mannau penodol lle ceir problemau llygredd a ffynonellau o lygredd oedd wedi'u cuddio'n flaenorol,
- cael gwell dealltwriaeth o effaith polisïau penodol; hanfodol i gynllunio strategaethau effeithiol ar gyfer rheoli llygredd aer.
Bydd y prosiect peilot hwn yn gweld 70 o synwyryddion digidol ynghlwm wrth lampau mewn rhai ardaloedd preswyl ym Mhort Talbot.
Ble fydd y synwyryddion
Bydd synwyryddion wedi'u lleoli yn:
- Margam
- Taibach
- Aberafan
- Traethmelyn
- Parc Ynni Baglan
Bydd yr ardal yn gweithredu fel parth prawf ar gyfer y dechnoleg a bydd yn darparu data “amser go iawn” ar sut mae ansawdd aer yn amrywio rhwng gwahanol gymdogaethau.
Rydym yn cydweithio â chwmni lleol Vortex IoT sydd wedi datblygu'r dechnoleg arloesol hon. Bydd Vortex IoT yn darparu'r synwyryddion, y rhwydwaith di-wifr a'r cymorth cynnal a chadw. Hwn yw'r prosiect cyntaf o'r math hwn yng Nghymru.
Pam rydyn ni'n ei wneud
Gwyddom pan fydd ansawdd aer yn wael, mae'n afiach, yn enwedig i bobl sy'n sensitif iddo fel plant, oedolion hŷn neu bobl â salwch anadlol.
Nid yw ansawdd aer yr un fath ym mhobman a gall llygredd gronni mewn pocedi ynysig. Gall ffynonellau lleol, er enghraifft diwydiant neu ffordd brysur a hyd yn oed seilwaith rheilffyrdd effeithio ar ansawdd aer.
Mae gan wahanol ardaloedd lefelau gwahanol o ansawdd aer ar wahanol adegau felly mae'n bwysig i ni fesur, monitro a dadansoddi'r hyn sy'n digwydd ac ymhle. Drwy wneud hynny gallwn gymryd y camau cywir i sicrhau ein bod i gyd yn mwynhau'r aer glanaf posibl.
Mae gwaith monitro ansawdd aer wedi'i wneud yng Nghastell-Nedd Port Talbot ers blynyddoedd lawer. Mae datblygiadau mewn technoleg ddigidol yn golygu y gallwn bellach wneud gwaith monitro lleol gan ddarparu data “amser go iawn” am ffynonellau llygredd sydd hyd yma wedi bod yn anweledig.
Pwy fydd yn elwa a sut
Bydd y dull lleol o fonitro ansawdd aer yn darparu ffynhonnell ddilys o ddata “amser go iawn” i'r prosiect y gellir ei gysylltu â digwyddiadau yn y gymuned honno, er enghraifft llif traffig, prosesau diwydiannol ac ati.
Mae mesur gwell yn golygu y gall y cyngor dargedu ymyriadau'n fwy effeithiol, nodi unrhyw fannau lle ceir problemau llygredd a ffynonellau o lygredd a oedd wedi'u cuddio'n flaenorol a'i helpu i wella ansawdd aer a deilliannau iechyd.
Pwy sy'n gyfrifol
Bydd y Prosiect Monitro Ansawdd Aer yn destun strwythur llywodraethu, sy'n cynnwys Bwrdd Prosiect a Llywodraethu cysylltiedig o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Bydd y Prosiect Monitro Ansawdd Aer yn cael ei rheoli o ddydd i ddydd gan y tîm ansawdd aer o fewn tîm Iechyd yr Amgylchedd y cyngor i sicrhau rhyngweithio â rhaglenni gwaith ansawdd aer presennol.