Cofrestru a sefydlu busnes bwyd newydd
Bydd angen i chi ystyried y math o fwyd a gaiff ei gynhyrchu neu ei drin yn eich mangre a'r offer, y lle a'r cynllun y bydd eu hangen cyn dechrau unrhyw waith ar yr adeilad. Dylech gysylltu â'r adran hon am fwy o gyngor os ydych yn bwriadu adeiladu busnes bwyd newydd neu wneud gwaith adnewyddu. Bydd hyn yn osgoi'r posibilrwydd o orfod ail-wneud gwaith ar ôl archwiliad arferol dilynol.
Os ydych yn dechrau busnes bwyd na ddefnyddir at y diben hwnnw ar hyn o bryd, bydd angen caniatâd cynllunio a chaniatâd rheoleiddio adeiladu arnoch. Gall fod angen y rhain hefyd os ydych yn gwneud gwaith adnewyddu neu'n estyn mangre bwyd bresennol. Ffoniwch 01639 686868 i gael mwy o gyngor ar Reoliadau Cynllunio ac Adeiladu.
Cofrestru busnesau bwyd
Yn ôl Rheoliad 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor Ewropeaidd ar hylendid bwyd, mae'n ofynnol i bob gweithredwr busnes bwyd gofrestru ei fusnes bwyd gyda'r awdurdod lleol.
Bydd cofrestru yn caniatáu i'r awdurdod lleol gadw rhestr gyfoes o'r holl fangreoedd yn yr ardal er mwyn iddo allu ymweld â hwy pan fydd angen. Bydd amlder yr ymweliadau'n dibynnu ar y math o fusnes.
Mae'n rhaid i weithredwyr busnes bwyd sicrhau bob amser fod gan yr awdurdod lleol yr wybodaeth ddiweddaraf am y busnes bwyd ac y rhoddir gwybod i'r awdurdod am unrhyw newid allweddol neu gau'r busnes.
Pwy sydd angen cofrestru?
Mae angen i bob busnes bwyd gofrestru unrhyw fangre a ddefnyddir ar gyfer storio, gwerthu, dosbarthu neu baratoi bwyd. Mae busnesau bwyd yn cynnwys: bwytai, gwestai, caffis, siopau, archfarchnadoedd, ffreuturau staff, ceginau mewn swyddfeydd, warysau, gwestai bach, cerbydau cludo, cerbydau bwffe ar drenau, stondinau marchnad a stondinau eraill, faniau cŵn poeth a hufen iâ, ac unrhyw fath arall o fusnes nad yw ar y rhestr hon ond sy'n cael ei ddefnyddio i storio, gwerthu, dosbarthu neu baratoi bwyd.
Os ydych yn defnyddio cerbydau ar gyfer eich busnes bwyd yn gysylltiedig â mangre barhaol fel siop neu warws, bydd angen i chi ddweud wrth yr awdurdod lleol faint o gerbydau sydd gennych yn unig. Does dim angen i chi gofrestru pob cerbyd ar wahân. Os oes gennych un neu fwy o gerbydau, ond dim mangre barhaol, mae'n rhaid i chi ddweud wrth yr awdurdod ble maent yn cael eu cadw fel arfer.
Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n sefydlu busnes bwyd newydd gofrestru gyda'r Awdurdod Lleol o leiaf 28 niwrnod cyn gwneud hynny.
Bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf o fangreoedd gael eu cofrestru. Fodd bynnag, eithrir mangreoedd penodol o gofrestru, e.e. rhai sydd eisoes wedi cofrestru at ddibenion cyfraith bwyd, mangreoedd amaethyddol penodol, ceir modur, pebyll a phebyll mawr (ond nid stondinau), rhai mangreoedd domestig a rhai neuaddau pentref. Dylech gysylltu â ni os ydych yn meddwl y gellid eich eithrio.
Sut gallwch gofrestru eich mangre
Ni chodir tâl am gofrestru eich mangre ac ni ellir ei gwrthod. Er mwyn cofrestru, dylech gwblhau'r 'ffurflen gais ar gyfer cofrestru sefydliad busnes bwyd' a'i dychwelyd i Adran Iechyd yr Amgylchedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Gallwch hefyd gyflwyno cais ar-lein i gofrestru busnes bwyd .I gael mwy o wybodaeth am gofrestru busnes bwyd ac i gyflwyno cais ar-lein, darllenwch a chwblhewch y cais ar-lein i gofrestru busnes bwyd.
Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â ni yn:
Mae ffurflenni cofrestru ar gael o'r adran hon.