Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Gwneud cais ar-lein

Crynodeb o'r drwydded

Er mwyn storio, paratoi, dosbarthu neu werthu bwyd ar fangre, bydd angen i chi gael eich cofestru gyda'r awdurdod lleol. Mae mangreoedd yn cynnwys bwytai, caffis, gwestai, siopau, ffreuturau, stondinau marchnad, faniau arlwyo symudol a faniau dosbarthu bwyd.

Gall fod angen i rai gwneuthurwyr sy'n trin bwyd o darddiad anifeiliaid gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol neu'r Gwasanaeth Hylendid Cig, yn hytrach na chael eu cofrestru. Os nad ydych yn sicr a oes angen i'ch busnes gael ei gymeradwyo neu ei gofrestru, ac os yw eich busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot, ffoniwch yr Is-adran Diogelwch Bwyd ar 01639 686868.

Meini Prawf Cymhwysedd

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth

Crynodeb o'r Rheoliad

Proses i Werthuso'r Cais

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

A fydd Caniatâd Dealledig yn berthnasol?

Bydd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu gweithredu fel petai eich cais wedi cael ei gymeradwyo os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed

NEU

Na. Mae er budd y cyhoedd bod yn rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gan yr awdurdod lleol o fewn cyfnod rhesymol, ffoniwch yr Is-adran Diogelwch Bwyd ar 01639 686868. Gallwch wneud hyn ar-lein os ydych wedi gwneud cais drwy wasanaeth UK Welcomes neu drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Gwneud Cais Ar-lein

Cywiro Cais sydd wedi Methu

Ffoniwch yr Is-adran Diogelwch Bwyd yn y lle cyntaf ar 01639 686868.

Cywiro Deiliad y Drwydded

Ffoniwch yr Is-adran Diogelwch Bwyd yn y lle cyntaf ar 01639 686868.

Cwyn gan Ddefnyddiwr

Byddem bob amser yn cynghori mai chi ddylai gysylltu â'r masnachwr yn y lle cyntaf os ceir cwyn - yn ddelfrydol drwy lythyr (â phrawf postio). Os nad yw hynny wedi gweithio a'ch bod yn y DU, bydd Cyswllt Defnyddwyr yn rhoi cyngor i chi. Os ydych y tu allan i'r DU, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.

Cywiriadau Eraill

E.e. am sŵn, llygredd, etc.  Hefyd, petai un deiliad trwydded yn cwyno am un arall.

Cymdeithasau Masnach