Clymog Japan
Beth yw Clymog Japan
Mae Clymog Japan yn blanhigyn ymledol sy'n anodd iawn ei reoli.
Mae'n effeithio ar fioamrywiaeth trwy ffurfio cytrefi trwchus a all wasgu rhywogaethau planhigion eraill.
Fe'i darganfyddir yn aml ar ochr:
- ffyrdd
- rheilffyrdd
- cyrsiau dŵr
Mae gwybodaeth am sut i adnabod, atal lledaeniad a gwaredu Clymog Japan ar gael ar wefan y Llywodraeth.
Prisiau a thriniaethau
Rydym yn cynnig y gwasanaethau triniaeth ganlynol i dirfeddianwyr helpu i reoli lledaeniad Clymog Japan:
Safleoedd domestig: Cynllun triniaeth chwistrellu 5 mlynedd
Safleoedd bychan (hyd at 4m2): Cynllun triniaeth chwistrellu
Blwyddyn | Gwasanaeth | Pris (yn cynnwys TAW) |
---|---|---|
1 | Cynllun rheoli a thriniaeth gyntaf | £274.91 |
2 | Ymweliad / ail-drin | £152.73 |
3 | Ymweliad / ail-drin | £152.73 |
4 | Ymweliad monitro ac adroddiad cynnydd | £122.17 |
5 | Ymweliad monitro ac adroddiad cadarnhau | £122.17 |
Safleoedd mwy: Triniaethau pwrpasol
Bydd angen cynllun rheoli pwrpasol ar safleoedd mwy.
Bydd y dyfynbris yn cyfateb i daliadau'r safle domestig, ynghyd â £107.81 yr awr (gan gynnwys TAW).
Mae hyn yn cynnwys yr amser ychwanegol a dreulir ar ddelio ag ardaloedd dros 50m2.
Mae angen caniatâd perchnogion y tir a rhaid talu ymlaen llaw.
Gwasanaethau nad ydym yn eu cynnig
Cyn gwneud cais, gweler y rhestr ganlynol o wasanaethau nad ydym yn eu cynnig:
- ymchwilio i anghydfodau â pherchnogion tir cyfagos ynghylch lledaeniad Clymog Japan
- cynorthwyo i ddarganfod pwy sy'n berchen ar dir y mae Clymog Japan yn achosi pryder
- cymryd camau cyfreithiol mewn perthynas â Chlymog Japan
- cynnig Gwarantau a Gefnogir gan Yswiriant
Gofyn am wasanaeth
Gallwch gwblhau ein ffurflen ar-lein i ofyn am:
- arolwg
- dyfynbris
- triniaeth