Datganiadau Pontio Tata Steel
-
Cronfa Cyflogaeth a Sgiliau newydd i gefnogi gweithwyr Tata Steel a'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru23 Hydref 2024
Mae gweithwyr yng Nghymru sydd wedi colli eu swyddi yn Tata Steel UK neu mewn busnes yng nghadwyn gyflenwi'r cwmni a chontractwyr cysylltiedig eraill bellach yn gallu cael gafael ar gyllid sydd wedi cael ei neilltuo i'w helpu i ailsgilio a dychwelyd i fyd gwaith.
-
Datganiad Arweinydd y Cyngor adeg cau’r pen trwm yng Ngwaith Dur Port Talbot30 Medi 2024
“Mae cau’r ffwrnais chwyth olaf ym Mhort Talbot yn ddiwrnod ingol iawn i’r ardal hon, a bydd yn cael ei deimlo’n arbennig o lym ar draws y dref ei hunan. Ers dros ganrif, mae’r gwaith dur wedi darparu cyflogaeth, naill a’i uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i filoedd – gan fy nghynnwys i fy hunan."
-
Lansio pecyn i helpu Cadwyn Gyflenwi Tata30 Medi 2024
Bydd busnesau sy’n perthyn i gadwyn gyflenwi Tata Steel UK ac y bydd y newid i ddefnyddio trydan i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn effeithio arnyn nhw yn cael ceisio am arian o heddiw ymlaen i’w helpu â heriau tymor byr y cyfnod pontio, yn ogystal ag am help i baratoi ar gyfer cyfleoedd newydd i dyfu.
-
Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot - 27 Mawrth 202427 Mawrth 2024
Cafwyd pedwerydd cyfarfod Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot ar 27 Mawrth 2024. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf gan Tata Steel UK am eu prosiect datgarboneiddio, gan gynnwys cau’r poptai golosg ym Mhort Talbot a'u cynnig diswyddo gwirfoddol. Mae'r Bwrdd yn cydnabod y brys y mae angen i ni weithio arno.
-
Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot - 1 Chwefror 202401 Chwefror 2024
Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am y trydydd tro ddydd Iau 1 Chwefror 2024 ar safle’r cwmni ym Mhort Talbot.
-
Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot - 30 Tachwedd 202330 Tachwedd 2023
Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am yr ail dro dydd Iau 30 Tachwedd ar safle’r cwmni ym Mhort Talbot, lle y cytunwyd y cylch gorchwyl ac aelodaeth y ddau is-grŵp ar gyfer Pobl, Sgiliau a Busnes; ac ar gyfer Lle ac Adfywio.
-
Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot19 Hydref 2023
Cyhoeddwyd Tata Steel gynigion ym mis Medi i fuddsoddi £1.25 biliwn, gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU gwerth hyd at £500 miliwn, i alluogi cynhyrchu dur mwy gwyrdd ym Mhort Talbot. Mae Bwrdd Pontio bellach wedi’i sefydlu i gefnogi’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yr effeithir arnynt gan y newid arfaethedig i symud tuag at wneud dur CO₂ isel.