Dogfen
Cylch gorchwyl
1. Nod
Bydd Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot yn cael ei sefydlu i roi cyngor i Weinidogion ar sut i ddiogelu a thyfu’r amgylchedd economaidd ac i gefnogi a lliniaru’r effaith ar y gweithwyr, y busnesau a’r cymunedau hynny[1] y mae prosiect datgarboneiddio Tata Steel UK (TSUK) yn effeithio arnynt yn uniongyrchol.
Er mwyn meithrin gwytnwch a hyder ar gyfer y dyfodol, bydd y Bwrdd Pontio yn canolbwyntio ar ddau faes gweithgarwch cyffredinol:
- Cymorth ar unwaith i’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol; a
- Cynllun ar gyfer adfywio a thwf economaidd ar gyfer y degawd nesaf.
2. Pwrpas y Bwrdd Pontio
Rôl y Bwrdd Pontio fydd cynghori. Bydd Llywodraeth y DU a TSUK yn darparu hyd at £100 miliwn ar gyfer ymyriadau yn yr ardal dan sylw, a bydd y Bwrdd Pontio yn gwneud argymhellion ynghylch lle gellid buddsoddi’r cyllid hwnnw orau. Bydd y cyllid gwerth £100 miliwn yn ychwanegol i’r sbardunau cymorth busnes, sgiliau a chyflogadwyedd y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i helpu’r rheini yr effeithir arnynt. Bydd hefyd yn ychwanegol i’r cymorth y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ei roi i bobl a busnesau yr effeithir arnynt.
Bydd y Bwrdd Pontio yn gwahodd is-grwpiau i gael eu sefydlu i ysgogi ac ymgysylltu â phartneriaid lleol, i gynghori ac i oruchwylio’r gwaith o gynhyrchu’r cynllun twf economaidd ac adfywio. Bydd y Bwrdd Pontio yn cael ei gefnogi gan Grŵp Llywio fydd yn cynnwys swyddogion. Gweler Rhannau 9 a 10 o’r Cylch Gorchwyl hwn am rolau a disgwyliadau mwy penodol y Bwrdd Pontio.
Nid yw goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r prosiect datgarboneiddio gwerth £1.25 biliwn, gan gynnwys adfer safleoedd, yn rhan o gylch gwaith y Bwrdd hwn. Mater yw hwn i’r Adran Busnes a Masnach (DBT) ei arwain ar wahân gyda TSUK. Bydd DBT a TSUK yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd Pontio, yn enwedig lle mae cysylltiadau i’w gwneud â mesurau cefnogi a chyfleoedd adfywio tymor hwy.
3. Cyd-destun
Ar 15 Medi 2023, cyhoeddwyd buddsoddiad o £1.25 biliwn i ddatgarboneiddio gweithrediadau TSUK. Mae grant gan Lywodraeth y DU yn cyfrif am £500 miliwn o’r buddsoddiad hwnnw.
Mae TSUK yn cyflogi tua 7,900 o bobl yn y DU, ac mae 3,900 ohonynt wedi’u lleoli ar safle Port Talbot. Mae’r pedwar safle arall yng Nghymru (Llanwern, Trostre, Shotton a Chaerffili) yn cyflogi tua 2,500 o bobl. Mae tua 1,500 o weithwyr wedi’u lleoli ar safleoedd yn Lloegr. Mae gweithrediadau TSUK hefyd yn cefnogi cryn dipyn o swyddi yn eu cadwyn gyflenwi ledled y DU. Mae’r ffurfweddiad presennol ar gyfer gwneud dur yn safle Port Talbot TSUK yn cefnogi dull traddodiadol y System Ffwrneisi Chwyth/Ocsigen Sylfaenol. Mae’r ffwrneisi chwyth yn dod tuag at ddiwedd eu cylch bywyd ac mae cyfanswm yr allyriadau carbon deuocsid ar draws Tata Steel yn gyfrifol am 22 y cant o’r allyriadau carbon deuocsid tiriogaethol o Gymru.[2]
Bydd y prosiect, os bydd yn cael ei gynnal, yn moderneiddio’r gwaith o gynhyrchu dur ar safle Port Talbot ar gyfer y dyfodol. Felly, bydd gwaith y Bwrdd Pontio yn canolbwyntio’n bennaf ar Bort Talbot. Mae angen i TSUK nawr weithio’n agos gydag Undebau a staff ar eu cynigion cyn dod i benderfyniad terfynol.
4. Amseriad
Bydd y Bwrdd Pontio yn cyfarfod yn fisol i ddechrau, gan symud i bob chwarter pan fo hynny’n briodol. Bydd y Bwrdd Pontio’n adolygu’r Cylch Gorchwyl ar ôl dau fis i benderfynu a yw’r amlder a’r aelodaeth yn dal yn briodol.
5. Ysgrifenyddiaeth
Bydd ysgrifenyddiaeth y Bwrdd Pontio a’r is-grwpiau yn cynnwys swyddogion o Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot. Bydd cyfrifoldebau’r ysgrifenyddiaeth yn cynnwys dosbarthu agendâu cyn cyfarfodydd a darparu cofnod o’r penderfyniadau a’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn dilyn pob un o gyfarfodydd y Bwrdd Pontio. Bydd papurau, dadansoddiadau a thystiolaeth yn cael eu comisiynu gan yr ysgrifenyddiaeth yn ôl y gofyn.
6. Cyfathrebu
Bydd cadeiryddion y Bwrdd Pontio yn cyfathrebu ar y cyd, gan ofyn am gyngor gan eraill yn ôl yr angen. Bydd ‘Protocol Cyfathrebu’ a ‘Chynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid’ hefyd yn cael eu datblygu i bennu’r egwyddorion a’r dulliau ar gyfer cyfleu’r cynllun economaidd a gwaith y Bwrdd Pontio gyda chytundeb cadeiryddion ac aelodau’r Bwrdd Pontio.
7. Aelodaeth a Llywodraethu
Amlinellir aelodaeth y Bwrdd Pontio, gan gynnwys trefniadau cadeirio, yn yr Atodiad. Amlinellir strwythur llywodraethu’r Bwrdd yn Ffigur 1. Gall aelodau enwebu dirprwyon i fynychu mewn amgylchiadau eithriadol ond disgwylir i aelodau wneud pob ymdrech i fynychu holl gyfarfodydd y Bwrdd. Bydd y Bwrdd Pontio hefyd yn cytuno a ddylid gwahodd mynychwyr a rhanddeiliaid ychwanegol – a all ddarparu rhagor o arbenigedd a gwybodaeth – i ymuno â’r Bwrdd Pontio ar sail ad hoc yn dibynnu ar y materion sy’n cael eu trafod.
8. Gweithio gyda’n gilydd: partneriaeth gyfartal
Bydd aelodau’r Bwrdd Pontio yn:
- Gweithio mewn partneriaeth i rannu gwybodaeth, dealltwriaeth ac adnoddau i leihau dyblygu a sicrhau’r manteision gorau posibl. Cytunir ar brotocol rhannu gwybodaeth.
- Rhannu’r holl wybodaeth berthnasol, ynghylch safleoedd TSUK, y gweithlu ac unrhyw newyddion busnes mawr arall (e.e. buddsoddiadau newydd posibl).
- Sicrhau bod holl aelodau’r Bwrdd Pontio yn cael eu cynnwys a’u bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn effeithiol..
- Bydd y Bwrdd Pontio yn sefydlu ac yn cynnal ymddiriedaeth – o fewn y Bwrdd Pontio, gyda Llywodraethau a gyda’r gymuned.
- Bydd y Bwrdd Pontio yn dwyn ynghyd bartneriaid o bob rhan o lywodraethau, awdurdodau lleol, a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb ac yr effeithir arnynt, gan ganolbwyntio ar gydweithredu i gyflawni nodau ac amcanion y Bwrdd.
9. Rôl – Bwrdd Pontio (Gweler Ffigur 1)
- Arwain yr ymateb lleol strategol i gefnogi gweithwyr TSUK, contractwyr, cymunedau a busnesau y mae ailstrwythuro busnes TSUK yn effeithio arnynt.
- Parhau i ymgysylltu â TSUK ar lefel Weinidogol i sicrhau gweithgarwch cydgysylltiedig mewn perthynas â’r ymyriadau sy’n cefnogi gweithwyr, teuluoedd, cymunedau a busnesau y mae proses TSUK o bontio i ddulliau mwy gwyrdd o gynhyrchu dur yn effeithio arnynt.
- Hwyluso cyflwyniadau i Adrannau eraill Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a’u hasiantaethau i sicrhau mynediad at gyngor polisi amserol a chymorth perthnasol.
- Hwyluso mynediad at ddulliau cymorth cenedlaethol a lleol drwy’r Adran Gwaith a Phensiynau, REACT, Gyrfa Cymru, Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, Innovate UK, Banc Busnes Prydain, cymorth ehangach ar gyfer datgarboneiddio gan Lywodraeth y DU, ac eraill i ymateb i anghenion lleol.
- Ystyried argymhellion ar gyfer cymorth pellach a gyflwynir gan yr is-grwpiau.
- Monitro gwaith yr is-grwpiau er mwyn rhoi cymaint o gyfleoedd buddsoddi perthnasol â phosibl i’r ardal.
- Nodi’r adnoddau sydd ar gael a’r adnoddau posibl (cyllid a phobl) sy’n gallu ymrwymo i gefnogi’r Bwrdd Pontio, ei waith a thwf economaidd yr ardal yn y dyfodol.
- Nodi buddsoddiad newydd a phresennol yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat i ddarparu neu gyflymu rhaglenni wedi’u targedu i liniaru’r effaith ar yr economi leol.
- Gwneud argymhellion ynghylch sut dylid darparu’r cyllid gwerth £100 miliwn i gefnogi mesurau lliniaru priodol ar gyfer colli swyddi a gweithgarwch adfywio tymor hwy.
- Monitro a gwerthuso’r allbynnau a’r canlyniadau fel y’u diffinnir gan y Bwrdd Pontio a chomisiynu gwaith yn ôl yr angen i feincnodi effaith economaidd.
10. Rôl – Is-grwpiau
Bydd yr is-grwpiau’n gyfrifol am ysgogi partneriaid lleol a chasglu gwybodaeth am amrywiaeth o raglenni cymorth, gan argymell camau gweithredu neu ymyriadau i’r Bwrdd Pontio. Mae Ffigur 1 yn yr Atodiad yn dangos strwythur y Bwrdd Pontio. Rydym yn cynnig bod yr is-grwpiau’n canolbwyntio ar y canlynol:
a) Pobl, Sgiliau a Busnes:
Cymorth ac ymateb ar unwaith er mwyn:
- Cynnal dadansoddiad priodol o’r bylchau (e.e. swyddi sydd ar gael; prinder llefydd hyfforddi ac ati) a defnyddio data i wneud argymhellion.
- Sicrhau’r cymorth priodol ar yr adeg iawn i weithwyr yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, gan gynnwys darparu ail-gyflogaeth, ail-hyfforddiant, cyngor ar fudd-daliadau, cyngor ar bensiynau ac ati.
- Cefnogi’r rheini sydd am sefydlu eu busnes eu hunain
- Cefnogi’r busnesau hynny yr effeithir arnynt yn y gadwyn gyflenwi.
- Rhoi cymorth iechyd a lles i’r rheini yr effeithir arnynt
- Gweithio gyda phartneriaid lleol a sefydliadau AU/AB i rannu rhaglenni sgiliau sy’n addas ar gyfer gweithwyr yr effeithir arnynt, gan nodi bylchau a datblygu rhaglenni sgiliau newydd lle mae bylchau mewn hyfforddiant
b) Lle ac Adfywio
Cymorth ac ymateb tymor canolig - tymor hir dros yr un i 10 mlynedd nesaf er mwyn:
- Gweithio gyda phartneriaid lleol i fesur y sioc economaidd bosibl i’r ardal yn y tymor byr a’r tymor hir, gan gynnwys effeithiau’r gadwyn gyflenwi.
- Gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu strategaeth economaidd gredadwy i gefnogi proses bontio Port Talbot dros y degawd nesaf.
- Datblygu a bwrw ymlaen ag achosion busnes i gael gafael ar y cyllid gwerth £100 miliwn.
- Ystyried dulliau cymorth ehangach, gan gynnwys mesurau datgarboneiddio ehangach Llywodraeth y DU a fydd yn hwyluso proses bontio’r ardal.
- Ceisio sicrhau buddsoddiad amgen er mwyn o leiaf ddisodli gwerth economaidd y swyddi a gollir a chefnogi cyfleoedd busnes newydd.
- Pennu sut gellir ail-bwrpasu daliadau tir ar ddiwedd y datgomisiynu i gefnogi’r gwaith o adfywio safle Tata.
- Cysoni a chysylltu cynigion ag amcanion strategol ehangach Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Cynigir bod gan bob is-grŵp aelodau sy’n bartneriaid allweddol i’w pennu’n lleol mewn trafodaeth gyda’r Bwrdd Pontio. Bydd yr is-grwpiau hyn yn cael eu hadolygu ar ôl dau fis oherwydd efallai y bydd rhai elfennau yn gofyn am sefydlu tasgluoedd ychwanegol.
Atodiad: Aelodau’r a Mynychwyr Bwrdd Pontio
Enw | Sefydliad | Rôl ar y Bwrdd Pontio |
---|---|---|
Y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru |
Llywodraeth y DU | Cadeirydd |
Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio |
Llywodraeth Cymru | Dirprwy Gadeirydd |
Sarah Jones AS, Gweinidog Gwladol yn yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) a’r Adran Busnes a Masnach |
Llywodraeth y DU | Aelod |
Y Gwir Anrhydeddus Angela Rayner AS, Dirprwy Brif Weinidog / Gweinidog Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol |
Llywodraeth y DU | Aelod |
Y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd y Cyngor |
Cyngor Castell-nedd Port Talbot | Aelod |
Karen Jones, CEO |
Cyngor Castell-nedd Port Talbot | Aelod |
Rajesh Nair, CEO |
Tata Steel UK | Aelod |
Dr Henrik Adam, Cadeirydd Tata Steel y DU, Is-lywydd Tata Steel, a Chadeirydd Bwrdd Tata Steel Netherlands Holding, hefyd yn gwasanaethu fel Cadeirydd Sefydliad Dur VDEh yn yr Almaen |
Tata Steel UK | Aelod |
Tom Hoyles |
GMB Union | Aelod |
Alun Davies |
Community Union | Aelod |
Jason Bartlett |
Unite Union | Aelod |
David Rees AS dros Aberafan |
Aelod o'r Senedd | Aelod |
Tom Giffard AS dros Gorllewin De Cymru |
Aelod o'r Senedd | Aelod |
Luke Fletcher AS dros Gorllewin De Cymru |
Aelod o'r Senedd | Aelod |
Stephen Kinnock, AS dros Aberafan Maesteg |
Llywodraeth y DU | Aelod |
Sarah Williams-Gardener |
Aelod annibynnol | Aelod |
Anne Jessop CBE |
Aelod annibynnol | Aelod |
Katherine Bennett CBE |
Aelod annibynnol | Aelod |