Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Y camau nesaf os nad ydych chi'n gallu cael mynediad at fand eang gwell eto

Rydym yn gwybod nad yw hyn yn ddelfrydol ac yn gallu bod yn ddifrifol.  Mae ein timau yn gweithio gyda chyflenwyr i:

  • deall eu cynlluniau cyflwyno masnachol
  • cydlynu ag adrannau'r Cyngor i'w gwneud hi'n haws cyflwyno'r gwasanaeth

Cynlluniau grantiau

Mae ein timau hefyd yn cyfarfod â Llywodraethau Cymru a’r DU i helpu i ddarparu cynlluniau grant. Mae llawer o gymunedau a busnesau wedi cael budd o gynlluniau fel:

  • Prosiect Gigabit
  • Mynediad Band Eang Cymru - grantiau i helpu i dalu costau cysylltiadau band eang newydd i gartrefi a busnesau yng Nghymru
  • Cynlluniau Talebau Gigabit - ar gau ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau newydd. Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon cyn gynted ag y bydd ceisiadau'n ailagor. Gall eich Swyddog Ymgysylltu Band Eang esbonio sut mae'r cynllun hwn yn gweithio

Swyddog Ymgysylltu Band Eang

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch eich Swyddog Ymgysylltu Band Eang lleol:
Swyddog Ymgysylltu Band Eang
Bethan Walilay

Gall Bethan drafod eich opsiynau tra byddwch yn aros i'ch ardal gael ei huwchraddio.