Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Cynhaliwch brawf cyflymder band eang

Bydd rhedeg prawf cyflymder yn rhoi gwybod i chi beth yw eich:

  • cyflymder band eang ar hyn o bryd
  • cyflymder lawr lwytho
  • cyflymder llwytho i fyny

Cyn cynnal prawf cyflymder, gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw ddyfeisiau eraill yn defnyddio'r rhyngrwyd, er enghraifft:

  • ffrydio teledu
  • gemau
  • llwytho i lawr

Bydd hyn yn sicrhau bod y prawf yn rhoi darllen mwy cywir o'ch cyflymder presennol.

I gael y canlyniadau gorau, defnyddiwch liniadur neu gyfrifiadur sydd wedi'i gysylltu â'ch llwybrydd trwy gebl ether-rwyd.

Gwnewch nodyn o'ch cyflymderau ar ôl i'r prawf ddod i ben, fel y gallwch chi gymharu'n hawdd ar y cam nesaf.