Awgrymiadau ar gyfer gwella cyflymder eich band eang
Os ydych chi wedi dewis pecyn sy'n cyd-fynd â'ch anghenion ond bod eich band eang yn dal yn araf, dyma rai pethau y gallwch chi geisio eu gwella.
Cynhaliwch brawf cyflymder
Bydd cynnal prawf cyflymder yn rhoi gwybod i chi am eich:
- cyflymder band eang presennol
- cyflymder lawr lwytho
- cyflymder llwytho i fyny
Cyn cynnal prawf cyflymder, gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw ddyfeisiau eraill yn defnyddio'r rhyngrwyd, er enghraifft:
- ffrydio teledu
- gemau
- lawrlwytho
Bydd hyn yn sicrhau bod y prawf yn rhoi darlleniad mwy cywir i chi o'ch cyflymder presennol.
I gael y canlyniadau gorau, defnyddiwch liniadur neu gyfrifiadur sydd wedi'i gysylltu â'ch llwybrydd trwy gebl ether-rwyd. Os yw'r canlyniadau'n arafach na'r disgwyl, cysylltwch â'ch Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP). Gallant ddweud wrthych a allai unrhyw broblemau neu waith yn eich ardal fod yn effeithio ar gyflymder eich cysylltiad.
Edrychwch am ddiweddariadau porwr gwe
Mae porwyr gwe yn diweddaru'n rheolaidd. Ar adegau efallai na fydd hyn yn cael ei sylwi, a all arafu eich cysylltiad. Bydd fersiynau mwy newydd yn gweithio'n gyflymach ac yn rhoi gwell diogelwch i chi.
Lawrlwythwch y fersiwn diweddaraf o'ch porwr gwe:
Meddyliwch am eich llwybrydd
Gall lleoliad eich llwybrydd gael effaith ar gyflymder eich cysylltiad. Gall dyfeisiau trydanol ymyrryd â'ch llwybrydd. Gall hyn gynnwys:
- setiau teledu
- cortynnau pŵer AC
- ffôn diwifr
- monitorau babanod
- meicrodon
Mae'n well gosod eich llwybrydd mor bell i ffwrdd o'r dyfeisiau hyn â phosib er mwyn osgoi arafu cyflymderau.
Bydd safle clir, uchel fel silff neu fwrdd yn eich helpu i osgoi ymyrraeth a chynnal cyflymder gorau posibl eich rhyngrwyd.
Gall oedran eich llwybrydd chwarae rhan hefyd. Po hynaf yw eich llwybrydd, y mwyaf tebygol yw hi o gael datgysylltiadau rheolaidd o'r rhyngrwyd. Gall eich darparwr:
- dweud a oes angen uwchraddio arnoch
- rhoi'r opsiynau mwyaf diweddar sydd ar gael i chi
Cyfrinair - amddiffyn eich band eang
Os na fyddwch chi'n cadw'ch llwybrydd diwifr yn ddiogel, gallai unrhyw un gerllaw fewngofnodi i'ch band eang. Gall hyn eich rhoi mewn perygl ar-lein yn ogystal ag arafu cyflymder eich rhyngrwyd. Gosodwch gyfrinair bob amser i amddiffyn eich llwybrydd. Defnyddiwch un sy'n cynnwys cymysgedd o lythrennau mawr a bach, yn ogystal â rhifau.