Diffodd copr ar gyfer llais digidol
Mae gwasanaethau llinell sefydlog draddodiadol yn dibynnu ar gysylltiad copr. Mae'r rhain bellach yn cael eu newid i fersiwn digidol o'r enw Voice over IP (VoIP).
Os ydych yn defnyddio llinell sefydlog draddodiadol ar gyfer eich cartref neu fusnes, gallwch ei ddefnyddio o hyd ar ôl y newid. Bydd eich ffôn cartref neu fusnes yn plygio i mewn i'ch llwybrydd yn lle'r soced ffôn.
Gallwch ddefnyddio eich llinell sefydlog gyda'ch band eang presennol - nid oes angen band eang ffibr llawn arnoch
Dylech sefydlu eich gwasanaeth VoIP newydd cyn canslo eich pecyn llinell sefydlog presennol. Bydd angen i chi gysylltu â’ch darparwr ymlaen llaw er mwyn iddynt allu:
- siarad â chi am gadw'r un rhif ffôn
- egluro os yw eich ffôn presennol yn gydnaws
Gwasanaethau gofal neu ofal ar y ffôn
Bydd y rhan fwyaf o ddyfeisiau llinell sefydlog eisoes yn gydnaws yn ddigidol. Os ydych yn dibynnu ar wasanaethau gofal drwy eich ffôn cartref, gwiriwch â’ch darparwr:
- y gallwch chi gysylltu o hyd pan fyddwch chi wedi newid
- yr hyn y maent wedi’i roi ar waith ar gyfer argyfyngau lle nad yw’r rhyngrwyd yn gweithio
Os oes gennych unrhyw amheuaeth am unrhyw beth, eich darparwr yw eich pwynt cyswllt cyntaf i'ch helpu.