Dewch i brofi hud y rhaeadrau
Ymgollwch i harddwch ein tirweddau naturiol a gadewch i'r rhaeadrau ysblennydd eich swyno.
Gallwch ymweld ar unrhyw adeg o'r flwyddyn, ond mae'n well mwynhau rhaeadrau Castell-nedd Port Talbot y tu allan i dymor prysur yr haf.
- Gwanwyn ar gyfer bywyd gwyllt egnïol
- Hydref ar gyfer coedwigoedd euraidd a physgod yn neidio
- Gaeaf ar gyfer afonydd rhuadwy a phibonwy
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i fod yn rhan o antur fythgofiadwy!
Llwybrau'r rhaeadrau
Archwiliwch rai o'r llwybrau mwyaf poblogaidd yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n cynnig golygfeydd hyfryd o'r rhaeadr ac sy'n cael eu caru gan gerddwyr, gwersyllwyr a phobl sy'n frwd dros fyd natur.
Gwlad y Sgydau Pontneddfechan
Rydym wedi gwneud cais llwyddiannus am £7.7 miliwn i fuddsoddi mewn seilwaith ymwelwyr.