Monitro Blynyddol y CDLl
Mae'n ofynnol i'r Awdurdod gynhyrchu Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) ar y CDLl. Bydd yr AMB yn nodi unrhyw bolisi nad yw'n cael ei weithredu yn y dull a ragwelwyd.
Bydd yr AMB yn asesu a yw strategaeth waelodol y CDLl yn dal yn gadarn, effaith polisïau ar lefel leol ac ehangach, ac a yw polisïau a'r targedau cysylltiedig wedi cael eu cyflawni, neu a yw cynnydd yn cael ei wneud tuag at hynny.
Bydd yr AMB yn ddefnyddiol o ran sicrhau bod pawb, yn cynnwys Cynghorwyr lleol, y gymuned ehangach a grwpiau busnes, yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch materion Cynllun Datblygu sy'n berthnasol i'r ardal.
Bydd angen cyflwyno'r Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn ar ôl mabwysiadu'r CDLl, a bydd gofyn bod y Cyngor yn cynnal adolygiad o'r Cynllun cyfan bob pedair blynedd.
Adroddiadau Monitro Blynyddol
Lawrlwythiadau
-
Adroddiad Monitro Blynyddol (Hydref 2017) (PDF 4.95 MB)
-
Adroddiad Monitro Blynyddol (Hydref 2018) (PDF 2.70 MB)
-
Adroddiad Monitro Blynyddol (Hydref 2019) (PDF 3.14 MB)
-
Adroddiad Monitro Blynyddol (Hydref 2020) (PDF 7.01 MB)
-
Adroddiad Monitro Blynyddol (Hydref 2021) (PDF 18.37 MB)
-
Adroddiad Monitro Blynyddol (Hydref 2022) (PDF 13.20 MB)
-
Adroddiad Monitro Blynyddol (Hydref 2023) (PDF 17.04 MB)