Canllawiau cynllunio Atodol
Mae defnydd dethol o Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA) yn fodd i gyflwyno canllawiau mwy manwl ar bynciau neu safleoedd penodol, neu sut bydd polisïau'r CDLl yn cael eu cymhwyso o dan amgylchiadau neu mewn ardaloedd arbennig. Er mai polisïau yn y CDLl yn unig sydd â statws arbennig wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio, gellir rhoi sylw I, CCA fel ystyriaeth bwysig.
Mae'r Cyngor felly wedi cynhyrchu'r rhestr ganlynol o CCA y mae'n bwriadu eu cynhyrchu a/neu eu diweddaru yn ystod cyfnod y Cynllun. Er eglurder, rhoddir rhif polisi arfaethedig y CDLl, y bydd y CCA yn rhoi eglurhad pellach arno, ynghyd â dyddiad cwblhau disgwyliedig.
Pan gaiff y CDLl ei fabwysiadu a'i roi ar waith, gallai ddod yn amlwg bod angen rhagor o CCA i egluro rhai o bolisïau'r Cynllun. Gallai fod angen, felly, i'r Cyngor gyflwyno CCA ar ben y rhai a amlinellwyd isod.
Cyfeirnod Polisi CDLl | Enw'r Polisi | Canllawiau Cynllunio Atodol | Dyddiad Cyhoeddi Disgwyliedig |
---|---|---|---|
I1 | Gofynion Isadeiledd | CCA: Rhwymedigaethau Cynllunio | Cyhoeddwydd: Hydref 2016 |
SP5 | Datblygiad yn Ardal Strategaeth Coridor yr Arfordir | CCA: Coridor Arloesedd Ffordd Fabian | Medi 2019 |
SRA2 | Ardal Adfywio Strategol Glannau'r Harbwr | Fframwaith Datblygu Harbwr Port Talbot a Chanol y Dref CCA | Medi 2019 |
VRS1 | Cynllun Adfywio'r Cymoedd | Fframwaith Datblygu Rhodfa'r Parc CCA | I gael ei gadarnhau |
AH1 | Tai Fforddiadwy | CCA: Tai Fforddiadwy | Cyhoeddwydd: Hydref 2016 |
OS1 | Darparu Mannau Agored | CCA: Mannau Agored a Mannau Glas | Cyhoeddwydd: Gorffennaf 2017 |
EC1 | Dyraniadau Cyflogaeth | CCA: Fframwaith Datblygu Parc Ynni Baglan | Cyhoeddwydd: Hydref 2016 |
EN2 | Ardaloedd Tirlun Arbennig | CCA: Tirlun a Morlun Dogfennau Ategol: LANDMAP CNPT - Asesiad Tirlun (2004) Bae Caerfyrddin, Gŵyr a Bae Abertawe - Asesiad o Gymeriad y Morlun Lleol (2017) |
Cyhoeddwydd: Mai 2018 |
EN6 | Safleoedd Bioamrywiaeth a Geoamrywiaeth pwysig | CCA: Bioamrywiaeth a Geoamrywiaeth | Cyhoeddwydd: Mai 2018 |
EN8 | Llygredd a Sefydlogrwydd Tir | CCA: Llygredd | Cyhoeddwydd: Hydref 2016 |
EN9 | Datblygiadau yn Ardal Ganolog Port Talbot | ||
RE2 | Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Carbon Isel mewn Datblygiadau Newydd | CCA: Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Carbon Isel | Cyhoeddwydd: Gorffennaf 2017 |
SP20 | Y Rhwydwaith Trafnidiaeth | CCA: Safonau Parcio | Cyhoeddwydd: Hydref 2016 |
BE1 | Dylunio | CCA: Dylunio | Cyhoeddwydd: Gorffennaf 2017 |
BE2 | Adeiladau o Bwysigrwydd Lleol | CCA: Yr Amgylchedd Hanesyddol CCA: Rhestr Adeiladau o Bwysigrwydd Lleol CCA: Rhestr Strwythurau Camlas Dynodedig |
Cyhoeddwydd: Ebrill 2019 |
WL1 | Datblygiad mewn Ardaloedd leithyddol Sensitif | CCA: Datblygiad a'r laith Gymraeg | Cyhoeddwydd: Gorffennaf 2017 |
Rhwymedigaethau Adran 106 – Nodiadau Cyfarwyddyd Asesiad Dichonolrwydd
Lle bydd ymgeiswyr yn nodi nad oes modd iddynt ddarparu’r holl dai fforddiadwy sy’n ofynnol ar sail hyfywedd, bydd angen iddynt gyflwyno asesiad ariannol manwl o’r datblygiad arfaethedig. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i we-dudalen y Cyngor, Asesiadau Hyfywedd ar gyfer Ceisiadau Cynllunio