Cytundeb mabwysiadu
Fel rhan o Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy, o dan Adran 17, ddyletswydd i fabwysiadu system draenio cynaliadwy, ar yr amod bod yr un sy'n cael ei hadeiladu'n bodloni'r safon genedlaethol fel y'i cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac unrhyw feini prawf dylunio lleol sydd gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy.
Mae Atodlen 3 yn cynnwys nifer o eithriadau i fabwysiadu system draenio cynaliadwy gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy:
- System ddraenio a adeiladwyd o dan Adran 114A Deddf y Diwydiant Dŵr 1991.
- Unrhyw ran o system ddraenio sy'n ffordd sy'n cael ei chynnal yn gyhoeddus neu a fydd yn cael ei chynnal yn gyhoeddus. O dan Adran 63 Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, ystyrir ffyrdd sydd â nodweddion draenio cynaliadwy fel rhan o'u systemau draenio yn 'strydoedd ag anawsterau peirianneg arbennig'. (Adran 27)
- Nid yw'n berthnasol i system ddraenio sydd wedi'i dylunio i ddarparu gwasanaeth draenio i un eiddo'n unig.
Gosodir nifer o amodau gyda'r caniatâd a roddir ac, fel rhan o'r rhain, bydd yn rhaid i'r datblygwr a pherchennog y tir lunio cytundeb cyfreithiol ar gyfer mabwysiadu'r system draenio cynaliadwy yn y dyfodol, ynghyd ag unrhyw hawddfreintiau y mae eu hangen cyn i waith ddechrau ar y safle.
Caiff y cytundebau eu llunio gan ddefnyddio Adran 2 Deddf Llywodraeth Leol 2000 ac Adran 111 Deddf Llywodraeth Leol 1972. Yn ôl y cytundeb, bydd symiau cymudedig(hyperlink to commuted sums page) yn angenrheidiol, yn unol â'r amodau a osodwyd.
‘Mae'n bwysig nodi y bydd angen cytundeb cyfreithiol cyn i ganiatâd gael ei roi ar gyfer cynlluniau systemau draenio cynaliadwy sydd i'w mabwysiadu o dan Atodlen 3’.
Symiau cymudedig
Yn y cytundeb mabwysiadu a'r amodau, gofynnir am swm o arian, a adwaenir fel swm cymudedig, ar gyfer cynnal a chadw unrhyw systemau draenio cynaliadwy yn y dyfodol a fydd yn cael eu mabwysiadu gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy neu'r Awdurdod Priffyrdd. Cyfrifir y rhain gan ddefnyddio fformiwla Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru ar gyfer symiau cymudedig.
Caiff y systemau draenio cynaliadwy eu mabwysiadu gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy, ond nid yr elfennau sy'n rhan o system ddraenio'r briffordd lle disgwylir i'r ffordd gael ei chynnal yn gyhoeddus; yn yr achos hwn, bydd yr Awdurdod Priffyrdd yn mabwysiadu'r rhan honno o'r system draenio cynaliadwy.
Cyfrifir y swm cymudedig gan ddefnyddio cyfraddau'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy i ymgymryd â'r gwaith cynnal a chadw, fel a bennir gan gynllun cynnal a chadw y cytunir arno fel rhan o gymeradwyaeth y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy. Bydd y swm angenrheidiol yn amod a bydd ef hefyd yn rhan o'r cytundeb cyfreithiol wrth fabwysiadu unrhyw system draenio cynaliadwy.
Symiau Cymudedig ar gyfer Cynnal a Chadw yn y Dyfodol
Mae sicrhau dull ariannu cynaliadwy ar gyfer hyd datblygiad yn amcan allweddol y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy. Mae gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy gyfrifoldeb am reoli a chynnal a chadw asedau'r systemau draenio cynaliadwy ar ôl iddynt gael eu mabwysiadu. Felly, nod symiau cymudedig yw sicrhau bod gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy'r adnoddau i gynnal a chadw'r asedau mae ef wedi eu mabwysiadu a darparu asedau newydd yn eu lle (pan fo'n briodol). Bydd effeithiolrwydd y systemau draenio cynaliadwy a'r manteision amryfal cysylltiedig yn dibynnu ar gynnal a chadw priodol.
Er mwyn sicrhau cysondeb ledled Cymru, dylid defnyddio arweiniad safonol y diwydiant, “Symiau Cymudedig ar gyfer Cynnal a Chadw Asedau Isadeiledd”, a luniwyd gan CSSC (Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru), i gyfrif symiau cymudedig ar gyfer yr holl asedau draenio sy'n cael eu mabwysiadu gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy, ni waeth a oes cytundeb Adran 38 neu gytundeb cyfreithiol pwrpasol ar gyfer hyd y datblygiadau (60 – 120 o flynyddoedd).
Ystyrir y canlynol wrth gyfrif swm cymudedig:
- y gost amcangyfrifedig reolaidd o gynnal a chadw'r ased sy'n cael ei fabwysiadu e.e. bob chwe mis. Mae'r llawlyfr systemau draenio cynaliadwy yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am yr elfen hon.
- y gost yn y dyfodol o adfer yr ased neu ddarparu un newydd yn ei le (e.e. mae palmentydd hydraidd yn cael eu dylunio i bara am 20 mlynedd, a allai arwain at adnewyddu'r ased deirgwaith yn ystod oes y datblygiad.
- y cyfnod y mae angen y swm ar ei gyfer. Argymhella'r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Cynllunio a Thrafnidiaeth y dylid cyfrif symiau cymudedig ar gyfer adeileddau dros gyfnod o 120 o flynyddoedd ac y dylai'r cyfnod ar gyfer eitemau eraill fod yn 60 o flynyddoedd (yn sylfaenol, oes gyfan y datblygiad).
- y gyfradd llog blynyddol effeithiol a fydd yn dwyn elw ar swm a fuddsoddwyd cyn iddo gael ei wario, ar ôl ystyried effaith chwyddiant (a adwaenir fel y gyfradd ddisgownt, oddeutu 2.2%).
Argymhellir defnyddio arweiniad Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru i ddarparu dealltwriaeth gyffredin i ddatblygwyr a'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy pan fyddant yn llunio naill ai cytundebau priffyrdd o dan Adran 278 ac Adran 38 neu gytundebau pwrpasol y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy.