Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Pellter rhwng ffenestri (ystafelloedd y gellir byw ynddynt)

NID YW HYN YN BERTHNASOL i ffenestri lefel uchel os yw eu siliau 1.5m ar eu huchaf uwch ben lefel llawr ystafell. Ni fydd eithriadau i'r polisi hwn os na fedrir profi y gellir cyfiawnhau hynny o dan amgylchiadau penodol.

AR GYFER YR ONGL RHWNG FFENESTRI YSTAFELLOEDD Y GELLIR BYW YNDDYNT YN ADEILADAU A A B, MAE'R TABL YN RHOI'R PELLTER LLEIAF MEWN METRAU SY'N OFYNNOL RHWNG Y FFENESTRI. BYDD Y PELLTERAU A'R ONGLAU RHWNG Y RHAI A DDANGOSIR YN Y TABL YN GYMESUR â'I GILYDD.

Pellter rhwng Ffenestri (Ystafelloedd y gellir byw ynddynt)

Dull

Tynnwch y llinell byrraf rhwng ffenestri'r ystafelloedd y gellir byw ynddynt.

Pennwch Ongl A a B.

Gan ddefnyddio Onglau A a B a'r tabl drosodd, gellir cyfrifo'r isafswm y pellter a ganiateir rhwng y ddwy ffenestr. e.e. A = 60 B = 80 isafswm pellter = 16m