Estyniadau cefn i dai sengl a thai pâr
Estyniadau ar y Llawr Gwaelod a'r Llawr Cyntaf
- Mabwysiadwyd y canllawiau canlynol gan Gyngor y Fwrdeistref Sirol:-
Y CôD 45 GRADD (Tŷ nad yw'n dŷ teras) - I gydymffurfio â'r côd 45 gradd, cynllunnir Estyniadau Llawr Cyntaf fel na fyddant yn croesi'r llinell 45 gradd o ffenestr agosaf y cymydog sy'n goleuo ystafell y gellir byw ynddi neu gegin. Y cyfeirair ESTYNIADAU LLAWR CYNTAF.
Tynnir y llinell 45 gradd yn y plân llorweddol i gynnwys y ffenestri hynny y bernir eu bod o uchder tebyg i'r estyniad arfaethedig. Y pwynt yw pwynt canol ffenestr yr ystafell agosaf y gellir byw ynddi yn yr estyniad. - Yn ôl maint cymharol a chyfeiriad y ffenestri perthnasol, mae'n bosib llacio'r côd petai'r estyniad yn effeithio ar ffenestr eilaidd mewn ystafell lle ceir dwy ffenestr neu fwy.
- Rhoddir ystyriaeth hefyd i unrhyw hawliau datblygu a ganiatawyd sy'n bodoli fel na fydd y Cyngor Bwrdeistref Sirol yn ceisio bod yn rhy gaeth petai'n bosib adeiladau estyniad tebyg heb ganiatâd cynllunio.
- Os oes estyniad eisoes wedi cael ei adeiladu neu wedi cael caniatâd cynllunio cyn i'r Cyngor fabwysiadu'r Côd, fel bod ei gynlluniad y tu hwnt i'r hyn a ganiateir o dan y Côd, ni ddylai estyniad ar hanner arall pâr o dai pâr estyn ymhellach na'r un sydd wedi'i adeiladu neu ei ganiatáu'n barod.
- Mae'n bosib y bydd cynigion ar y cyd er gyfer estyniadau i bâr o dai pâr yn cael eu derbyn hyd yn oed pe na byddai'r estyniad unigol yn cydymffurfio â'r côd, ar yr amod eu bod o'r un dyfnder ac i'w hadeiladu a'u cwblhau ar yr un pryd. Serch hynny, bydd yn rhaid ystyried cymdogion eraill a allai gael eu heffeithio.
- Mae'n bosib y bydd cynllun manwl estyniad arfaethedig yn annerbyniol er iddo gydymffurfio â'r côd, er enghraifft, oherwydd y dewis o do. Felly, dylid rhoi sylw gofalus i uchder estyniad arfaethedig, y dull adeiladu a'r deunyddiau i'w defnyddio.
Estyniadau ar y llawr gwaelod
- Bydd cynigion ar gyfer estyniadau llawr gwaelod yn cael eu trin yn ôl eu rhinweddau, gan ystyried uchder a hyd y cynnig a'i safle mewn perthynas â thai drws nesaf, yn arbennig ffenestri ystafelloedd y gellir byw ynddynt.
Cyffredinol
-
- Gall rhai atebion adeiladu sy'n bodloni'r Côd fod yn anfoddhaol am eu bod yn gadael gofodau lletchwith neu ddi-werth rhwng yr estyniad arfaethedig a'r terfyn. Bydd waliau onglog yn dderbyniol fel arfer dim ond os ydynt yn rhan hanfodol o'r cynllun cyffredinol. Dylai unrhyw rannau a osodir ‘yn ôl' fod o leiaf metr rhwng yr estyniad arfaethedig a'r terfyn er mwyn caniatáu mynediad a chynnal a chadw yn y dyfodol.
- Gellir llacio'r Côd os bydd adeileddau parhaol rhwng eiddo megis waliau terfyn, dros 2 fetr o uchder a thai mâs o frics yn effeithio ar gymhwyso'r Côd. Fodd bynnag, ni fydd adeileddau dros dro'n cael eu hystyried. (Mae adeileddau dros dro yn y cyd-destun hwn yn golygu dull amgáu neu adeiladau a godwyd o ddeunyddiau nad ydynt yn barhaol).
- Lle ceir newid mewn lefelau rhwng dwy annedd, byddai estyniad i'r uchaf o'r ddwy'n cael mwy o effaith ar ei gymydog yn is i lawr na'r cymydog sy'n uwch. Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd uchder yr estyniad mewn perthynas â'i gymydog yn ystyriaeth bwysig.
- Os yw'r tŷ yn dŷ pâr, mae'n bwysig cadw'r estyniad i raddfa ac mewn cydbwysedd â'r adeilad gwreiddiol cyfan. Gellir cyflawni hynny drwy osgoi estyniadau mawr gormesol a thrwy leoli gofalus. Gall gosod yr estyniad yn ôl o wal flaen y tŷ hefyd helpu i gadw cymesuredd yr adeilad gwreiddiol. (Gweler Adran 7.2).
- Mewn rhai achosion, bernir y bydd to crib yn hanfodol ac fel a amlinellwyd yn gynt, mae manteision amlwg iddo o'i gymharu â tho fflat. Pan ddefnyddir to crib, dylai ei siâp ategu to'r tŷ gwreiddiol.
Hyd yn oed os nad yw'n bosib cynllunio neu fforddio to crib, hwyrach y gellir ateb y broblem gyda tho crib anghymesur. Hwyrach mai dim ond goleddf bach fydd ei angen ar y gweddlun amlwg. O ganlyniad, bydd yr estyniad yn ymddangos fel petai ganddo do crib cyfan.
- Gall rhai atebion adeiladu sy'n bodloni'r Côd fod yn anfoddhaol am eu bod yn gadael gofodau lletchwith neu ddi-werth rhwng yr estyniad arfaethedig a'r terfyn. Bydd waliau onglog yn dderbyniol fel arfer dim ond os ydynt yn rhan hanfodol o'r cynllun cyffredinol. Dylai unrhyw rannau a osodir ‘yn ôl' fod o leiaf metr rhwng yr estyniad arfaethedig a'r terfyn er mwyn caniatáu mynediad a chynnal a chadw yn y dyfodol.