Byngalos
- Gall byngalos achosi problemau arbennig wrth geisio dylunio estyniadau derbyniol. Lle byddai estyniad un llawr to fflat yn dderbyniol weithiau ar dŷ dau lawr, anaml iawn y byddai'n dderbyniol ar fyngalo. Wrth ystyried estyn byngalo, felly, dylid ystyried estyn y to mewn arddull sydd naill ai'n cydweddu â'r to presennol neu ei ategu.
- Dull arall fyddai ystyried newid gofod y to. Mae ymarferoldeb y dull hwn yn dibynnu'n rhannol ar y dull adeiladu. Dylid ceisio'r cyngor technegol perthnasol cyn dechrau ar y gwaith
Lefelau
Lle nad oes digon o uchdwr yn y gofod to presennol hwyrach y byddai'n syniad codi'r to. Byddai hyn fel arfer yn cael effaith andwyol ar res neu grŵp o fyngalos ac fel arfer rhoddir ystyriaeth i hyn yn unig o ran adeiladau ar eu pennau eu hunain neu'r rheiny sydd ar lefelau gwahanol a hynny'n cuddio'r effaith weledol.