Talu'ch trethi busnes
Taliad ar-lein
Mae talu ar-lein yn hawdd ac yn ddiogel a gallwch wneud hyn drwy eich cerdyn debyd. Cofiwch gael eich bil wrth law oherwydd bydd angen eich cyfeirnod arnoch.
Debyd Uniongyrchol
Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol yw'r dull talu hawsaf a mwyaf cyfleus.
Gallwch chi sefydlu debyd uniongyrchol dros y ffôn trwy ffonio'r adran Trethi Busnes – gyda manylion eich banc i law.
(01639) 686843
Gallwch hefyd lawrlwytho ac argraffu cyfarwyddyd debyd uniongyrchol isod, y gallwch ei llenwi a'i dychwelyd atom. Gallwch hefyd gysylltu â'r adran Trethi Busnes ar 01639 686843 a byddant yn anfon cyfarwyddyd debyd uniongyrchol atoch yn y post.
Lawrlwytho
Dros y ffôn
- Gallwch ddefnyddio eich cerdyn debyd i dalu dros y ffôn 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos ar - 0161 6226919.
- Wrth dalu, cofiwch gadw’ch bil wrth law gan y bydd angen eich cyfeirnod.
Trwy'r post
Anfonwch eich siec, sy'n daladwy i CBS Castell-nedd Port Talbot i:
Yr Ariannwr,
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot,
Canolfan Ddinesig,
Port Talbot
SA13 1PJ
Rhowch enw, cyfeiriad a rhif eich cyfrif ardrethi busnes ar gefn y siec.