Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Talu'ch trethi busnes

Taliad ar-lein

Mae talu ar-lein yn hawdd ac yn ddiogel a gallwch wneud hyn drwy eich cerdyn debyd. Cofiwch gael eich bil wrth law oherwydd bydd angen eich cyfeirnod arnoch.

Debyd Uniongyrchol

Talu trwy Ddebyd Uniongyrchol yw'r dull talu hawsaf a mwyaf cyfleus.

Gallwch chi sefydlu debyd uniongyrchol dros y ffôn trwy ffonio'r adran Trethi Busnes – gyda manylion eich banc i law.

(01639) 686843

Gallwch hefyd lawrlwytho ac argraffu cyfarwyddyd debyd uniongyrchol isod, y gallwch ei llenwi a'i dychwelyd atom. Gallwch hefyd gysylltu â'r adran Trethi Busnes ar 01639 686843 a byddant yn anfon cyfarwyddyd debyd uniongyrchol atoch yn y post.

Dros y ffôn

  • Gallwch ddefnyddio eich cerdyn debyd i dalu dros y ffôn 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos ar - 0161 6226919.
  • Wrth dalu, cofiwch gadw’ch bil wrth law gan y bydd angen eich cyfeirnod.

Trwy'r post

Anfonwch eich siec, sy'n daladwy i CBS Castell-nedd Port Talbot i:

Yr Ariannwr,
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot,
Canolfan Ddinesig,
Port Talbot
SA13 1PJ

Rhowch enw, cyfeiriad a rhif eich cyfrif ardrethi busnes ar gefn y siec.