Sut mae ardrethi busnes yn cael eu cyfrifo
Rydym yn cyfrifo ardrethi busnes bob blwyddyn drwy gymryd gwerth ardrethol eiddo a'i luosi â'r 'lluosydd' a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Gwerth ardrethol
Rhoddir gwerth ardrethol i bob eiddo busnes nad yw'n gartrefi. Mae'n ffordd o fesur pa mor werthfawr yw pob eiddo.
Mae’r gwerth yn amcangyfrif gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio o faint y byddai’n ei gostio i rentu eiddo am flwyddyn ar 21 Ebrill 2021. Darllenwch ganllawiau Gov.uk ar sut i gyfrifo’ch ardrethi busnes.
Gallwch ddod o hyd i werth ardrethol eich eiddo ar-lein a gweld y wybodaeth sydd gan y VOA.
Y lluosydd
Mae’r lluosydd yn cael ei osod gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.
Y lluosydd yng Nghymru ar gyfer 2024/25 yw 56.2 ceiniog yn y bunt.
Lluosydd blynyddoedd blaenorol:
- 2023/24 - 53.5c
- 2022/23 - 53.5c
- 2021/22 - 53.5c
- 2020/21 - 53.5c
- 2019/20 - 52.6c
Cyfrifiad enghreifftiol
Bydd gan eiddo busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000, fil ardrethi o £8,430 ar gyfer y flwyddyn ariannol lawn 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025:
- £15,000 x £0.562 = £8,430
Gostyngiad ardrethi busnes
Mae nifer o gostyngiadau Gostyngiad ardrethi busnes ar gael a allai leihau faint o ardrethi busnes y mae'n rhaid i chi eu talu
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni.