Asiantau dyled a gorfodi
Cyngor dyled
Gallwch gael cyngor rhad ac am ddim, annibynnol a diduedd dros y ffôn:
- Llinell Dyled Genedlaethol ar 0808 808 4000
- Elusen Dyled StepChange ar 0800 138 1111
- Cyngor ar Bopeth
- GOV.UK
Darllenwch ein Siarter Casglu Dyledion
Beilïaid ac asiantau gorfodi
Ers 6 Ebrill 2014, mae Rheoliadau Cymryd Rheolaeth ar Nwyddau 2013 a Rheoliadau Cymryd Rheolaeth ar Nwyddau (Ffioedd) 2014 wedi dod i rym.
Mae'r ddeddfwriaeth yn sicrhau bod Asiantau Gorfodaeth (beilïaid gynt) yn fwy atebol am eu gweithredoedd ac yn nodi'r weithdrefn y mae'n rhaid i Asiantau Gorfodaeth eu dilyn wrth gymryd rheolaeth ar nwyddau a'u gwerthu i adennill y ddyled.
Ar ôl 6ed Ebrill 2014, gall y Cyngor gyfarwyddo Asiant Gorfodi i gasglu'r ddyled ar Trethi Busnes oddi wrthych os rhoddwyd rhybudd o Orchymyn Atebolrwydd i chi. Efallai y byddwn yn gwneud hyn os nad ydych wedi gwneud neu wedi cadw at gynllun ad-dalu cytunedig neu os ydym wedi methu â chasglu'r ddyled trwy ddulliau eraill.
Cyn i ni gyfeirio eich dyled i'r Asiant Gorfodaeth, byddwn yn anfon llythyr atoch i ddweud wrthych am y costau ychwanegol y gellir codi tâl arnoch os caiff Asiantau Gorfodi eu cyfarwyddo i gasglu'r ddyled.
Er mwyn osgoi eich dyled Trethi Busnes yn cael eu cyfeirio at Asiant Gorfodi ar gyfer casglu, dylech gysylltu â ni i drafod eich ôl-ddyledion. Byddwn yn edrych ar eich amgylchiadau ac yn ceisio cyd-drafod cynllun talu,
(01639) 686843
Cyfnod Ffioedd | Nodwedd Ffioedd | Ffi Sefydlog | Canran Ffioedd (ffi ychwanegol os yw dyled yn fwy na £1,500) | |
---|---|---|---|---|
£0 - £1,500 | > £1,500 | |||
Cydymffurfiaeth | Cyn gynted ag y bydd yr Asiantaeth Gorfodaeth yn derbyn eich cyfrif, caiff y ffi hon ei ychwanegu at eich dyled. | £75.00 | 0% | 0% |
Gorfodaeth | Cyn gynted ag y bydd yr Asiant Gorfodaeth yn mynychu'ch eiddo, caiff y ffi hon ei ychwanegu at eich dyled | £235.00 | 0% | 7.5% |
Gwerthiant | Cyn gynted ag y caiff nwyddau eu cymryd i fan gwerthu, mae'r ffi hon yn cael ei ychwanegu at eich dyled | £110.00 | 0% | 7.5% |
Unwaith y bydd eich cyfrif wedi cael ei anfon at yr Asiant Gorfodi dylai unrhyw daliadau neu gynigion o ad-daliad cael ei wneud i'r Asiant Gorfodi ac NID y Cyngor.