Hepgor gwe-lywio

Gwefan newydd yw hon – bydd eich adborth yn ein helpu i wella.

Dogfen

Siarter ar gyfer casglu dyledion

Mae'r Siarter hon:
• yn nodi ein haddewid ynghylch sut y byddwn yn casglu dyledion sy'n ddyledus i'r Cyngor;
• egluro eich rhwymedigaethau o ran dyledion sy'n ddyledus i'r Cyngor;
• yn dweud wrthych am ein polisi cwynion.   Bydd staff sy'n ymwneud â chasglu dyledion bob amser yn cadw'r addewidion a nodir yn y Siarter hon ac yn Siarter Gofal Cwsmeriaid y Cyngor.

Lle bo'n briodol, bydd y Cyngor yn parhau i gymryd camau adennill, gan gynnwys achos llys, ond bydd bob amser yn dilyn yr addewidion a wneir yn y Siarter hon. Byddwn yn diweddaru'r Siarter hon pryd bynnag y byddwn yn cyflwyno gwelliannau i'n gwasanaethau.

Mae'r daflen hon hefyd ar gael mewn print bras neu braille

Ein Addewid

Bydd ein biliau yn rhoi gwybodaeth glir am:
• beth yw pwrpas y bil;
• faint sy'n rhaid i chi dalu;
• sut i dalu'r bil;
• y cymorth sydd ar gael i leihau'r bil;
• gyda phwy i gysylltu os oes gennych ymholiad;

Bydd ein llythyrau adennill yn rhoi gwybodaeth glir am:
• faint sydd arnoch chi;
• pryd mae'n rhaid i chi dalu'r swm sy'n ddyledus;
• beth sy'n digwydd os na fyddwch yn talu'r swm sy'n ddyledus;
• y cymorth sydd ar gael i leihau'r swm sy'n ddyledus;
• gyda phwy i gysylltu os oes gennych ymholiad.

Bydd staff sy'n delio â chasglu dyledion yn:
• derbyn hyfforddiant mewn gofal cwsmeriaid a chasglu dyledion;
• ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael i leihau'r swm sy'n ddyledus;
• cael cyfarwyddyd ysgrifenedig clir i'w dilyn.

Byddwn yn darparu gwybodaeth yn ein swyddfeydd am:
• sut i hawlio gostyngiad i'r swm sy'n ddyledus neu fudd-daliadau eraill;
• lle i gael cyngor annibynnol am eich sefyllfa ariannol

Byddwn yn trin pawb yn barchus, yn unol
â'u hanghenion unigol, ac yn gyfrinachol:
• byddwn bob amser yn cadw at ein Siarter Gofal Cwsmeriaid;
• byddwn yn siarad neu'n ysgrifennu atoch yn Gymraeg os mai dyma eich dymuniad;
• Byddwn yn ysgrifennu atoch mewn print bras neu Braille os oes gennych nam ar eich golwg.

Byddwn yn annog pobl sydd â phroblemau dyledion i ofyn am gyngor annibynnol.
• Byddwn yn cytuno ar amserlenni ad-dalu sy'n realistig.
• Byddwn yn ystyried eich incwm a'ch ymrwymiadau;
• byddwn yn ystyried yr holl ddyledion sy'n ddyledus gennych i'r Cyngor neu i eraill;
• Byddwn yn ystyried unrhyw argymhellion
gan asiantaethau cynghori cydnabyddedig.
• Byddwn yn sicrhau bod unrhyw asiantau sy'n casglu dyled ar ein rhan yn cydymffurfio'n llwyr â'n Codau Ymarfer manwl.

Eich Rhwymedigaethau

Mae'n rhaid i chi wneud pob ymdrech i dalu unrhyw swm sy'n ddyledus i'r Cyngor.
· Dylech gysylltu â ni cyn gynted ag y byddwch yn cael trafferth wrth dalu unrhyw swm sy'n ddyledus fel y gallwn geisio eich helpu.
· Os ydych yn derbyn llythyr gennym am arian sy'n ddyledus i'r Cyngor, peidiwch â'i anwybyddu. Os na fyddwch yn gwneud dim, bydd y sefyllfa'n gwaethygu a gall y swm sy'n ddyledus gennych gynyddu.
·Os byddwch yn gwneud cytundeb i dalu unrhyw swm sy’n ddyledus i’r Cyngor, rhaid i chi wneud taliadau rheolaidd yn unol â’r cytundeb.

Os ydych yn gwneud cais am unrhyw ostyngiadau i'r swm sy'n ddyledus i'r Cyngor, rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen gais yn brydlon.

Cwynion

Os oes gennych gŵyn am y ffordd yr ydym yn delio â chi, dywedwch wrthym fel y gallwn ymchwilio a lle bo angen unioni'r mater.

· Yn unol â gweithdrefn gwyno'r Cyngor, ein nod yw ymateb yn llawn i gwynion o fewn 10 diwrnod gwaith. Os na allwn ymateb yn yr amserlen hon, byddwn yn dweud wrthych pryd i ddisgwyl ateb.