Dogfen
Datganiad caethwasiaeth fodern o ran cadwyn gyflenwi Castell-nedd Port Talbot
Cyflwyniad
1.1. Mae'r datganiad hwn yn egluro nodau ac ymrwymiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (y cyngor) i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern. Yn benodol mae'n nodi'r camau gweithredu y mae'r cyngor wedi'u cymryd hyd yn hyn, a'r camau gweithredu y bydd yn eu cymryd yn ystod 2019/2020 i sicrhau nad oes unrhyw bobl yn gaethweision modern neu’n cael eu masnachu yn ei fusnes ei hun neu ei gadwyni cyflenwi.
1.2 Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ac yn torri hawliau dynol sylfaenol. Mae'n bodoli ar sawl ffurf megis caethwasiaeth, caethwasanaeth, gwaith dan orfod neu waith gorfodol a masnachu pobl, a’r hyn sy’n gyffredin rhyngddynt yw bod unigolyn yn mynd â rhyddid unigolyn arall oddi arno er mwyn ei ecsbloetio er budd personol neu fasnachol.
Trosolwg
2.1 Mae'r cyngor yn gwario dros £140 miliwn y flwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith sy'n cynnwys cadwyni cyflenwi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'r cyngor wedi ymrwymo’n llawn i sicrhau nad oes unrhyw bobl yn gaethweision modern neu’n cael eu masnachu yn ei gadwyni cyflenwi neu unrhyw ran o'i fusnes. Mae angen dull integredig sy'n dod â meysydd allweddol y cyngor, yn arbennig yr adrannau caffael ac adnoddau dynol ac adrannau perthnasol sy'n gyfrifol am reoli contractau, ynghyd i gyflawni’r ymrwymiad hwn.
2.3 Mae'r datganiad hwn yn trafod 12 ymrwymiad y Côd Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi ac mae hefyd yn cyfeirio at brosesau diogelu a chyfrifoldebau'r cyngor dan Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae'r cyngor eisoes wedi llofnodi’r Côd Ymarfer ac atodir yr ymrwymiadau a gynhwysir ynddo yn Atodiad A.
Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015
3.1 Yn y DU, mae Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 yn diffinio troseddau caethwasiaeth, caethwasanaeth, gwaith dan orfod neu waith gorfodol a masnachu pobl, ac mae'n cynnwys mesurau ar gyfer diogelu dioddefwyr posibl. Ystyr caethwasiaeth yw unrhyw system lle bydd egwyddorion cyfraith eiddo'n berthnasol i bobl, gan alluogi unigolion i berchenogi unigolion eraill, eu prynu a'u gwerthu.
3.2 Caiff dioddefwyr eu masnachu ar draws y byd am ychydig bach o arian neu ddim arian, gan gynnwys i'r DU ac o fewn y DU. Gallant gael eu gorfodi i weithio yn y fasnach ryw, bod yn gaethweision domestig, gwneud gwaith dan orfod neu gyflawni troseddau neu gall eu horganau gael eu tynnu er mwyn eu gwerthu.
3.3. Amcangyfrifir bod caethwasiaeth fodern yn effeithio ar 50 miliwn o bobl ledled y byd, gan gynnwys yn y DU a Chymru.
Cyfrifoldebau
Mae Côd Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi'n mynnu bod datganiad blynyddol ysgrifenedig yn cael ei wneud gan y cyngor sy'n amlinellu'r camau a gymerwyd yn ystod y flwyddyn ariannol, a chynlluniau ar gyfer gweithredu yn y dyfodol, i sicrhau nad oes unrhyw bobl yn gaethweision neu’n cael eu masnachu yn unrhyw ran o’r cyngor a’i gadwyni cyflenwi.
Ymrwymiad
5.1 Mae'r cyngor wedi ymrwymo’n bendant i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern a lles y rheiny sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd, p’un a ydynt yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol neu drwy drefniadau cytundebol.
5.2 Mae'r cyngor wedi ymrwymo i ystyried prosesau diwydrwydd dyladwy yn ein busnes ein hunain a’n cadwyn gyflenwi. Byddwn yn rhoi systemau ar waith i nodi, asesu a monitro meysydd risg posibl yn ein cadwyni cyflenwi er mwyn lliniaru'r risgiau hynny.
5.3 Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Chydraddoldeb yw deiliad y portffolio ar gyfer y maes gwaith hwn a hefyd Hyrwyddwr Atal Caethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol y cyngor.
5.4 Caiff pwysigrwydd y maes gwaith hwn ei atgyfnerthu gan y ffaith y bydd angen i’r datganiad hwn gael ei gymeradwyo gan Gabinet y cyngor, y mae Pwyllgor Craffu'r Cabinet yn craffu arno’n llawn.
5.5 Mae grŵp o uwch-reolwyr sy'n cynnwys y Prif Weithredwr a Chyfarwyddwyr Corfforaethol yn goruchwylio rheolaeth strategol busnes y cyngor. Mae gan Benaethiaid Gwasanaeth gyfrifoldeb gweithredol unigol am wasanaethau yn ogystal â darparu cefnogaeth strategol i uwch-reolwyr.
Beth rydym wedi ei wneud
Gweithred |
Arweinydd |
---|---|
Cadarnhau Polisi Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi'r cyngor ar 23 Ionawr 2019 |
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
Penodi Hyrwyddwr Atal Caethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol |
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
Sefydlu Grŵp Strategaeth Gaffael i sicrhau bod arferion gwaith da drwy'r cyngor |
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
Parhau i ddiweddaru Rheolau Gweithdrefnau Contract y cyngor |
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
Cynnwys cwestiynau am gaethwasiaeth fodern mewn tendrau a gyhoeddwyd gan yr Uned Gaffael Gorfforaethol fel rhan o un o ofynion gorfodol y broses ddethol, ac mae'n ofynnol bellach i bob cyflenwr gadarnhau ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth. |
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
Cynnwys Datganiad Caethwasiaeth Fodern ym Mholisi Recriwtio a Dethol y cyngor |
Pennaeth AD |
Llunio Polisi Chwythu’r Chwiban |
Pennaeth AD |
Yr hyn y byddwn yn ei wneud
Gweithred |
Arweinydd |
---|---|
Darparu hyfforddiant ar gaethwasiaeth fodern i bob un o weithwyr y cyngor |
Pennaeth AD |
I sicrhau lefel uchel o ddealltwriaeth o’r risg bod caethweision modern a bod pobl yn cael eu masnachu yn ein cadwyni cyflenwi a'n sefydliad, mae'r cyngor yn bwriadu codi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern ymhlith ei weithwyr sy'n rhan o'r broses brynu/gaffael a'r broses o recriwtio ac adleoli gweithwyr drwy ddarparu modiwl e-ddysgu ar y Côd Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, sy'n cynnwys caethwasiaeth fodern. Darperir hyfforddiant i bob gweithiwr i sicrhau dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern yn barhaus. |
Pennaeth AD |
Disgwyl i gyflenwyr y cyngor lofnodi’r Polisi Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi |
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
Cynnal adolygiadau rheolaidd o wariant a chynnal asesiad risg ar y canfyddiadau i ddod o hyd i gynhyrchion a/neu wasanaethau lle ceir risg o gaethwasiaeth fodern yn y DU a thramor |
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
Nodi cynhyrchion a/neu wasanaethau lle mae’r risg o gaethwasiaeth fodern yn uchel a sefydlu proses i asesu'r contractau a'r arferion gwaith drwy beilot er mwyn asesu sampl o gyflenwyr i geisio nodi a mynd i'r afael ag unrhyw enghreifftiau o gaethwasiaeth fodern drwy'r sianeli priodol. |
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
Ymrwymiad i'r Côd Ymarfer |
Cam Gweithredu Angenrheidiol |
Dyddiad Targed i'w Roi ar Waith |
Sut byddwn yn mesur pob ymrwymiad |
Swyddog Arweiniol |
---|---|---|---|---|
1. Llunio polisi ysgrifenedig ar gyflogaeth foesegol yn ein sefydliad ninnau ac yn ein cadwyni cyflenwi. Wedi inni lunio’r polisi hwn, byddwn yn ei rannu ar draws ein sefydliad ac yn ei adolygu’n flynyddol a monitro pa mor effeithiol ydyw. Fel rhan o hyn byddwn yn:
1.1. Penodi Hyrwyddwr Gwrthgaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol.
|
Bydd angen llunio Polisi Cyflogaeth Foesegol, sy'n sail ar gyfer y ddogfen hon.
1.1. Penodir Hyrwyddwr Gwrthgaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol. |
Gweithredir yn Ionawr 2019 |
Bydd polisi'n cael ei lunio a'i ddosbarthu i bob aelod o staff, y caiff ei adolygu'n flynyddol.
1.1. Penodwyd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Chydraddoldeb yn Hyrwyddwr Gwrthgaethwasiaeth a Chyflogaeth Foesegol. |
Pennaeth AD a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
2. Llunio polisi ysgrifenedig ar ddatgelu camarfer i rymuso staff i godi amheuon ynghylch arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol, ac sy’n gosod cyfrifoldeb ar staff i adrodd am weithgarwch troseddol sy’n cael ei gynnal yn ein sefydliad ein hunain ac yn ein cadwyni cyflenwi. Wedi i ni lunio’r polisi hwn, byddwn yn ei rannu ar draws ein sefydliad. Byddwn yn adolygu’r polisi yn flynyddol ac yn monitro pa mor effeithiol ydyw. Byddwn hefyd yn:
2.1. Darparu dull i bobl y tu allan i'n sefydliad godi amheuon ynghylch arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol.
|
Polisi Datgelu Camarfer ar waith.
Cyflwyno’r Polisi Datgelu Camarfer bob blwyddyn
2.1 Bydd y Polisi Datgelu Camarfer yn addas i unigolion y tu allan i'r sefydliad godi amheuon ynghylch arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesegol
|
Cwblhawyd
Parhaus
2.1 Cwblhawyd |
Bydd polisi'n cael ei lunio a'i ddosbarthu i bob aelod o staff a gaiff ei adolygu'n flynyddol, a nodir ystadegau ar y defnydd o'r polisi, yn unol â'r polisi. |
Pennaeth AD/Pennaeth Cyllid a Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
3. Sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig â phrynu/caffael a recriwtio a defnyddio gweithwyr yn cael hyfforddiant ar gaethwasiaeth fodern ac arferion cyflogaeth foesegol, a chadw cofnod o’r rhai sydd wedi cael hyfforddiant.
|
Darperir hyfforddiant ar gaethwasiaeth modern i holl weithwyr y cyngor fesul cam. Datblygwyd hyn o ganlyniad i Ddeddf Caethwasiaeth Modern 2015.
Sefydlwyd Grŵp Strategaeth Caffael i sicrhau arferion gweithio da ar draws y cyngor cyfan. |
Parhaus
Parhaus. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Grŵp Strategaeth Caffael ym mis Tachwedd 2018 |
Cedwir cofnod o'r holl swyddogion sy'n rhan o'r prosesau caffael a gaiff ei ddiweddaru ar ôl cyflwyno'r hyfforddiant. Bydd yr holl swyddogion o'r fath yn cyflawni hyfforddiant cyn mis Ebrill 2019.
Lle nodir pryderon gan swyddogion, dosberthir nodiadau cyngor ar faterion i bob aelod o staff fel eu bod yn ymwybodol o arferion gwaith da.
Darperir diweddariadau rheolaidd ar hyfforddiant i'r Grŵp Strategaeth Caffael er mwyn rhoi adborth i'r swyddogion angenrheidiol. |
Pennaeth AD
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol
|
4. Sicrhau bod arferion cyflogaeth yn cael eu hystyried fel rhan o’r broses gaffael. Byddwn yn:
4.1. Cynnwys copi o’n polisi ar gyflogaeth foesegol (Ymrwymiad 1) yn yr holl ddogfennaeth gaffael.
4.2. Cynnwys cwestiynau priodol ar gyflogaeth foesegol mewn gwybodaeth dendro ac asesu’r ymatebion a ddaw i law.
4.3. Lle y bo’n briodol, cynnwys elfennau o’r Côd fel amodau’r contract.
4.4. Bob tro y ceir dyfynbris neu dendr anarferol o isel, gofyn i ymgeiswyr esbonio’r effaith y gallai costau isel ei chael ar eu gweithwyr.
|
4.1 Cynhwysir cyfeiriad at holl bolisïau'r cyngor a'r gofyniad i gydymffurfio yn amodau'r contract a roddir mewn ymarfer caffael a gynhaliwyd gan yr Uned Gaffael Gorfforaethol. Unwaith y llunnir ac y cymeradwyir y Polisi Cyflogaeth Foesegol, caiff ei gynnwys yn amodau'r contract.
Mae Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r cyngor yn cael eu diwygio ar hyn o bryd a byddant yn cynnwys cyfeiriad at y gofynion hyn.
4.2 Mae cwestiynau ar gosbrestru a chaethwasiaeth modern eisoes wedi'u cynnwys mewn tendrau a roddir gan yr Uned Gaffael Gorfforaethol
Sicrhau bod yr holl is-adrannau sy'n cynnal ymarferion tendro'n mabwysiadu'r un arfer â'r Uned Gaffael Gorfforaethol. Mae Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r cyngor yn cael eu diwygio ar hyn o bryd a byddant yn cynnwys cyfeiriad at y gofynion hyn.
4.3 Mae amodau'r contract eisoes yn cynnwys elfennau o'r côd fel y bo'n briodol ac fe'i hadolygir i sicrhau priodoldeb bob tro y rhoddir tendr.
4.4 Ymchwilir eisoes i gynigion anarferol o isel yn ystod ymarfer tendro er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, sydd eisoes yn cynnwys cwestiynau sy'n ymwneud yn benodol â'r effaith ar weithwyr a chydymffurfio a deddfwriaeth.
Mae Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r cyngor yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd a byddant yn cynnwys cyfeiriad at y gofynion hyn i hwyluso ymwybyddiaeth i is-adrannau eraill. |
4.1 Parhaus
4.2 Parhaus
Rhaid diweddaru'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau erbyn mis Gorffennaf 2019
4.3 Parhaus
4.4 Parhaus
Rhaid diweddaru'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau erbyn mis Gorffennaf 2019
|
Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi. |
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
5. Sicrhau nad yw’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n cyflenwyr yn arwain at ddefnyddio arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol yn y gadwyn gyflenwi. Byddwn yn:
5.1. Sicrhau nad oes pwysau cost ac amser gormodol ar unrhyw un o'n cyflenwyr os yw hyn yn debygol o arwain at drin gweithwyr mewn ffordd anfoesegol.
5.2. Sicrhau y telir cyflenwyr CNPT mewn pryd - o fewn 30 niwrnod i dderbyn anfoneb ddilys.
5.3. Bob tro y ceir dyfynbris neu dendr anarferol o isel, gofyn i ymgeiswyr esbonio’r effaith y gallai costau isel ei chael ar eu gweithwyr.
|
5.1 Bydd y swyddogion technegol perthnasol yn tynnu sylw at hyn wrth weithio gyda'r maes gwasanaeth dan sylw, a chaiff ei ystyried yn y Rheolau Gweithdrefnau Contract diwygiedig i sicrhau bod is-adrannau'n cydymffurfio.
5.2 Mae hyn eisoes yn amod o'r contract ac mae systemau ar waith i gyflawni hyn.
5.3 Eir i'r afael â hyn yn ôl yr angen fel rhan o'r broses gaffael. Ymchwilir eisoes i gynigion anarferol o isel yn ystod ymarfer tendro i gydymffurfio â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.
Mae Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r cyngor yn cael eu diwygio ar hyn o bryd a byddant yn cynnwys cyfeiriad at y gofynion hyn |
5.1 Parhaus
5.2 Parhaus
5.3 Parhaus Rhaid diweddaru'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau erbyn mis Gorffennaf 2019
|
Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi. |
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
6. Disgwyl i’n cyflenwyr ymrwymo i’r Côd Ymarfer hwn er mwyn helpu i sicrhau bod arferion cyflogaeth foesegol yn cael eu cynnal drwy’r gadwyn gyflenwi.
|
Byddwn yn cynyddu ymwybyddiaeth o'r hyn rydym wedi ymrwymo i'w wneud fel cyngor ac yn annog ein cyflenwyr i wneud yr un peth lle bynnag y bo'n bosib. Bydd ein hymrwymiad i'r côd yn rhan o'r broses gaffael drwy ei gynnwys yn y ddogfennaeth dendro. |
Parhaus |
Cesglir ystadegau ar gyfer y cyflenwyr sy'n ymrwymo i'r Côd Ymarfer hwn ac i'r rhai nad ydynt yn gwneud hyn, dylid darparu esboniad i egluro'r rhesymu fel y gall y cyngor ystyried pam mae hyn yw’r achos, ac edrych ar ei rwymedigaethau tendro'n unol â hyn.
|
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
7. Asesu ein gwariant i ddod o hyd i faterion caethwasiaeth fodern, torri hawliau dynol ac arferion cyflogaeth anfoesegol, ac ymdrin â hwy. Byddwn yn:
7.1. Cynnal adolygiadau rheolaidd o wariant ac yn cynnal asesiad risg ar y canfyddiadau, i ddod o hyd i gynnyrch a/neu wasanaethau lle ceir risg o gaethwasiaeth fodern a/neu arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol yn y DU a thramor.
7.2. Ymchwilio i arferion unrhyw gyflenwr sydd wedi’i nodi fel risg uchel, drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â’r gweithwyr lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
7.3. Gweithio gyda’n cyflenwyr i unioni unrhyw faterion yn gysylltiedig ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesegol.
7.4. Monitro arferion cyflogaeth ein cyflenwyr risg uchel, gan wneud hyn yn eitem safonol ar yr agenda ar gyfer pob cyfarfod/adolygiad rheoli contractau.
|
7.1 Byddwn yn nodi'r cynnyrch a/neu'r gwasanaethau hynny sy'n rhai risg uchel o bosib. Sefydlu proses i asesu'r contractau a'r arferion gwaith drwy gynllun peilot i asesu sampl o gyflenwyr i geisio nodi a gwahardd unrhyw enghreifftiau o gaethwasiaeth modern neu arferion cyflogaeth anfoesegol.
7.2 Yn ôl y galw
7.3 Yn ôl y galw
7.4 Byddwn yn ymgorffori hyn yn ein prosesau rheoli contractau ac yn monitro pob cyflenwr risg uchel. |
7.1 Parhaus
7.2 Parhaus
7.3 Parhaus
7.4 Parhaus |
Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi. |
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
8. Sicrhau na fydd unrhyw arferion hunangyflogi ffug yn cael eu cynnal ac na fydd cynlluniau mantell a chontractau dim oriau yn cael eu defnyddio’n annheg neu fel modd o:
8.1. Osgoi, neu hwyluso osgoi, talu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol a’r isafswm cyflog perthnasol.
8.2. Rhoi gweithwyr dan anfantais yn ddiangen o ran hawliau tâl a chyflogaeth, sicrwydd swyddi a chyfleoedd gyrfa.
8.3. Osgoi cyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch.
|
At ddibenion eglurder, nid yw'r cyngor yn defnyddio 'contractau dim oriau', mae'n defnyddio 'contractau oriau achlysurol'. Bydd y cyngor fodd bynnag yn rheoli'r sefyllfa o ran ei gontractwyr a chadwyni cyflenwi ei gontractwyr i sicrhau na ddefnyddir 'contractau dim oriau' mewn modd annheg fel a nodwyd yn yr ymrwymiad hwn, Ymrwymiad Rhif 8.
8.1 Caiff hyn ei gynnwys yn neddfwriaeth IR35 ond byddwn yn ei ymgorffori yn ein prosesau rheoli contractau ac yn monitro pob cyflenwr risg uchel.
8.2 Fel uchod
8.3 Mae pob contract yn cynnwys gofynion er mwyn cydymffurfio â chyfrifoldebau a deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a byddwn yn ymgorffori hyn yn ein prosesau rheoli contractau ac yn monitro cyflenwyr risg uchel. |
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Egwyddorion a Chanllawiau ar gyfer Defnyddio Trefniadau Oriau heb eu Gwarantu ac mae'r cyngor wedi ceisio gweithredu'n unol â hyn. Cynhaliodd y cyngor archwiliad arfer yn ddiweddar er mwyn rhoi adborth i Lywodraeth Cymru drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, a nodwyd un bwlch yn ein harfer sef datblygu polisi clir mewn perthynas â'r rhai sy'n ymwneud â threfniadau oriau heb eu gwarantu. Rhoddir polisi ar waith i gyflawni hyn yn y gwanwyn 2019.
8.1 Parhaus
8.2 Parhaus
8.3 Parhaus
|
Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi. |
Pennaeth AD/Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
9. Sicrhau bod gweithwyr yn rhydd i ymuno ag Undeb Llafur neu gydgytundeb ac i ymgymryd ag unrhyw weithgaredd cysylltiedig a chodi pryderon gweithwyr heb berygl y byddant yn wynebu unrhyw fath o wahaniaethu yn eu herbyn. Byddwn yn:
9.1. Peidio â defnyddio cosbrestri/rhestri gwaharddedig.
9.2. Sicrhau nad yw ein cyflenwyr yn defnyddio cosbrestri/rhestri gwaharddedig.
9.3. Peidio â llunio contract ag unrhyw gyflenwr sydd wedi defnyddio cosbrestr/rhestr waharddedig ac sydd wedi methu cymryd camau i unioni’r sefyllfa.
9.4. Disgwyl i’n cyflenwyr sicrhau bod cynrychiolwyr Undebau Llafur yn gallu cael mynediad at aelodau a gweithwyr contract.
|
Mae'r cyngor yn annog perthynas iach â'r undebau llafur cydnabyddedig ac mae'n awyddus i weithio mewn partneriaeth â nhw. Bydd y cyngor yn sicrhau na fydd unrhyw staff dan anfantais annheg am gymryd rhan mewn gweithgaredd ar ran undeb.
9.1 Nid yw'r cyngor yn defnyddio cosbrestrau/rhestrau gwaharddedig.
9.2 Bydd y cyngor yn ymdrechu i sicrhau ein bod yn defnyddio cyflenwyr sy'n rhannu'r egwyddor hon ac mae contractau'n cynnwys rhwymedigaethau contract i annog hyn.
9.3 Mae sicrwydd hyn yn rhan o drefniadau cyn-gymhwyso cyflenwyr sy'n cynnig am gontractau'r cyngor.
9.4 Gweler 9.2 uchod |
Parhaus
|
Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi. |
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol/Pennaeth AD |
10. Ystyried talu Cyflog Byw y Sefydliad Cyflog Byw fel isafswm i bob aelod o staff ac annog ein cyflenwyr i wneud yr un fath. Byddwn yn:
10.1. Ystyried talu Cyflog Byw’r Sefydliad Cyflog Byw fel isafswm i’n holl staff yn y DU.
10.2. Ystyried cael ein hachredu fel Cyflogwr Cyflog Byw.
10.3. Annog ein cyflenwyr sydd wedi’u lleoli dramor i dalu cyflog teg i’w holl staff, a sicrhau bod staff sy’n gweithio yn y DU yn cael yr isafswm cyflog o leiaf.
|
O ran ein cyflenwyr:
10.1 O ystyried sefyllfa bresennol y gyllideb, yr unig ffordd y gellir ystyried hyn yw os bydd Llywodraeth Cymru'n ei ariannu'n llawn.
10.2 O ystyried sefyllfa bresennol y gyllideb, yr unig ffordd y gellir ystyried hyn yw os bydd Llywodraeth Cymru'n ei ariannu'n llawn.
10.3. Ni fydd rhwymedigaeth ar bob cyflenwr i dalu'r isafswm cyflog cenedlaethol fel rhwymedigaeth gyfreithiol gytundebol. |
Parhaus |
Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi. |
Pennaeth AD/Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
11. Llunio datganiad blynyddol ysgrifenedig yn amlinellu’r camau a gymerir yn ystod y flwyddyn ariannol, a’r camau gweithredu sy’n cael eu cynllunio, i sicrhau nad oes unrhyw achos o gaethwasiaeth na masnachu pobl yn unrhyw ran o’n sefydliad a’i gadwyni cyflenwi. Byddwn yn:
11.1. Sicrhau bod y datganiad yn cael ei lofnodi gan uwch-reolwr/aelod o’r bwrdd.
11.2. Cyhoeddi’r datganiad ar ein gwefan. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn darparu copi i unrhyw un cyn pen 30 niwrnod o dderbyn cais.
|
11.1 Bydd y datganiad a geir yn y Polisi Recriwtio a Dethol drafft yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet wedi' i'r Undebau Llafur ei gymeradwyo
11.2 Cyhoeddir y Datganiad Cymeradwy ar wefan y cyngor.
|
11.1 Cymeradwyo'r datganiad drafft erbyn mis Mehefin 2019
11.2 Cyhoeddi datganiad yn dilyn cymeradwyaeth erbyn mis Mehefin 2019.
|
Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi. |
Pennaeth AD/Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
12. Sicrhau bod y rheiny sy’n gwneud gwaith ar gontract allanol yn cael eu trin yn deg ac yn gyfartal. Byddwn yn:
12.1. Sicrhau bod staff y sector cyhoeddus sy’n cael eu trosglwyddo fel rhan o wasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei drefnu’n allanol drwy drydydd parti yn cadw eu hamodau a’u telerau cyflogaeth.
12.2. Sicrhau bod aelodau eraill o staff sy’n gweithio ar wasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei drefnu’n allanol yn cael eu cyflogi ar delerau ac amodau tebyg i’r staff sydd wedi eu trosglwyddo o’r sector cyhoeddus.
|
12.1 Glynir wrth ddeddfwriaeth TUPE a chynhwysir darpariaeth mewn dogfennaeth dendro lle bydd TUPE yn berthnasol.
12.2 Mae'r cyngor yn cytuno â'r egwyddor y dylai corff sy'n darparu gwasanaeth ar ei ran gyflogi staff ar amodau a thelerau gwaith sy'n debyg i'r staff hynny sydd wedi'u trosglwyddo o gyflogaeth yr awdurdod. Ar yr un pryd, mae angen i'r cyngor barchu gofynion cyfraith cyflogaeth ac ymrwymo iddynt wrth drosglwyddo staff o'i gyflogaeth.
|
12.1 Cwblhawyd
12.2 Cwblhawyd
|
Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi. |
Pennaeth AD |
13. Er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r ddyletswydd yn Adran 26 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015, bydd y cyngor yn sicrhau bod ei gyflenwyr yn cytuno i gydymffurfio ag unrhyw un o ofynion y cyngor fel y'u nodir yn Strategaeth ac Arweiniad Prevent ac Arweiniad Channel er mwyn sicrhau y rhoddir sylw priodol i'r angen i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth a/neu eithafiaeth. |
Bydd y cyngor yn sicrhau bod
1. Cymal yn cael ei gynnwys ym mhob contract i'w gwneud yn ofynnol i'r holl gyflenwyr gydymffurfio ar bob adeg â Strategaeth ac Arweiniad Prevent ac Arweiniad Channel, mynychu sesiynau hyfforddiant a drefnir gan y cyngor (heb unrhyw gost i'r cyngor) mewn perthynas ag arweiniad o'r fath a gwneud unrhyw gyfeiriadau i sefydliadau priodol, gan sicrhau ar bob adeg fod y rhai sy'n darparu gwasanaethau i'r cyngor yn cynorthwyo wrth ganiatáu i'r cyngor fodloni ei rwymedigaethau statudol o dan Adran 26 Deddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015, a
2. Cwestiwn cyn cymhwyso'n cael ei gynnwys mewn dogfennaeth gaffael i sicrhau na fydd unrhyw ymgeisydd sy'n datgan ei fod wedi defnyddio'i gadwyni cyflenwi i ariannu a/neu gefnogi terfysgaeth a/neu eithafiaeth ac yn methu bodloni'r cyngor bod camau gweithredu lliniarol wedi'u cymryd i atal hyn rhag digwydd eto yn cael caniatâd i wneud cynnig mewn tendr o'r fath.
3. Bydd Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r cyngor (sy'n cael eu diwygio ar hyn o bryd) yn cynnwys cyfeiriad at y gofynion hyn er mwyn hwyluso ymwybyddiaeth swyddogion y cyngor. |
Parhaus |
Bydd swyddogion yn cynnal gwiriadau ar hap ar ymarferion tendro i sicrhau eu bod yn cydymffurfio.
Cedwir cofnodion o'r holl dendrau (yn unol â gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015) a fydd yn caniatáu i'r fath faterion gael eu nodi. |
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, y Prif Weithredwr Cynorthwyol a'r Prif Swyddog Digidol |